YouVersion Logo
Search Icon

Ruth 4

4
Boas yn Priodi Ruth
1Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sôn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, “Tyrd yma ac eistedd i lawr.” Aeth yntau ac eistedd. 2Yna fe ddewisodd ddeg o henuriaid y dref a dweud, “Eisteddwch yma”; ac eisteddodd y rheini. 3Dywedodd wrth y perthynas, “Daeth Naomi yn ôl o wlad Moab ac y mae am werthu'r darn tir oedd yn perthyn i'n brawd Elimelech, 4a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngŵydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n ôl, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn.” Dywedodd yntau, “Fe'i prynaf.” 5Yna meddai Boas, “Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth#4:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, oddi wrth Ruth. y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth.” 6Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”
7Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel. 8Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid. 9A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, “Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi. 10Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn.” 11Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, “Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th dŷ fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd dŷ Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem. 12Trwy'r plant y bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi i ti o'r eneth hon, bydded dy deulu fel teulu Peres a ddygodd Tamar i Jwda.”
Boas a'i Ddisgynyddion
13Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab. 14Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio â'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel. 15Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti.” 16Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei chôl a'i fagu. 17Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, “Ganwyd mab i Naomi.” Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.
18Dyma achau Peres: Peres oedd tad Hesron, 19Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Amminadab, 20Amminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon#4:20 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, Salma., 21Salmon oedd tad Boas, Boas oedd tad Obed, 22Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad Dafydd.

Currently Selected:

Ruth 4: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy