YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 96

96
1Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,
canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.
2Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,
cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
3Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,
ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
4Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;
y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
5Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,
ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
6Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,
nerth a gogoniant yn ei gysegr.
7Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
8rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,
dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.
9Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;
crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.
10Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin”;
yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir;
bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.
11Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear;
rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
12llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen
13o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod,
oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
Bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder,
a'r bobloedd â'i wirionedd.

Currently Selected:

Y Salmau 96: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy