YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 30

30
Salm. Cân i gysegru'r deml. I Ddafydd.
1Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu,
a pheidio â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
2O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu.
3O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol,
a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
4Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,
a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.
5Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes;
os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
6Yn fy hawddfyd fe ddywedwn,
“Ni'm symudir byth.”
7Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,
ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,
ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9“Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?
A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf;
ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”
11Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns,
wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd,
12er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid.
O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!

Currently Selected:

Y Salmau 30: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy