YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 2

2
Nehemeia'n Cyrraedd Jerwsalem
1Ac ym mis Nisan, yn ugeinfed flwyddyn y Brenin Artaxerxes, cymerais y gwin oedd wedi ei osod o'i flaen, a'i roi iddo. Yr oeddwn#2:1 Felly Groeg. Hebraeg, Nid oeddwn. yn drist yn ei ŵydd, 2a gofynnodd y brenin i mi, “Pam yr wyt yn drist? Nid wyt yn glaf; felly nid yw hyn ond tristwch calon.” Daeth ofn mawr arnaf 3a dywedais, “O frenin, bydd fyw byth! Sut y medraf beidio ag edrych yn drist pan yw'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid yn adfeilion, a'i phyrth wedi eu hysu â thân?” 4Dywedodd y brenin, “Beth yw dy ddymuniad?” Yna gweddïais ar Dduw'r nefoedd, 5a dweud wrth y brenin, “Os gwêl y brenin yn dda, ac os yw dy was yn gymeradwy gennyt, anfon fi i Jwda, i'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid, i'w hailadeiladu.” 6Ac meddai'r brenin wrthyf, a'r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, “Pa mor hir fydd dy daith, a pha bryd y dychweli?” Rhoddais amser penodol oedd yn dderbyniol i'r brenin, a gadawodd yntau imi fynd. 7Yna dywedais wrtho, “Os gwêl y brenin yn dda, rho i mi lythyrau at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates er mwyn iddynt hwyluso fy nhaith i Jwda, 8a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tŷ y byddaf yn byw ynddo.” Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin. 9Yr oedd y brenin wedi anfon gyda mi swyddogion o'r fyddin a marchogion, a phan ddeuthum at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates rhoddais iddynt lythyrau'r brenin. 10Ond pan glywodd Sanbalat yr Horoniad a'r gwas Tobeia yr Ammoniad am hyn, yr oeddent yn flin iawn fod rhywun wedi dod i geisio cynorthwyo pobl Israel.
11Wedi imi gyrraedd Jerwsalem a bod yno dridiau, 12codais liw nos, myfi a'r ychydig ddynion oedd gyda mi, ond heb ddweud wrth neb beth oedd fy Nuw wedi ei roi yn fy meddwl i'w wneud i Jerwsalem. Nid oedd anifail gyda mi ar wahân i'r un yr oeddwn yn marchogaeth arno. 13Euthum allan liw nos trwy Borth y Glyn i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig ac at Borth y Dom, ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd â thân. 14Euthum ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Lyn y Brenin, ond nid oedd lle i'm hanifail fynd trwodd. 15Euthum i fyny'r dyffryn liw nos i archwilio'r mur, ac yna troi'n ôl a dychwelyd trwy Borth y Glyn. 16Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith. 17Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.” 18Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, “Awn ati i adeiladu.” A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar.
19Pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, a'r gwas Tobeia yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, gwatwarasant ni a'n dirmygu a gofyn, “Beth yw hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn gwrthryfela yn erbyn y brenin?” 20Atebais hwy a dweud, “Bydd Duw y nefoedd yn rhoi llwyddiant i ni, ac yr ydym ninnau, ei weision ef, yn mynd ati i adeiladu. Ond nid oes gennych chwi ran na hawl na braint yn Jerwsalem.”

Currently Selected:

Nehemeia 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy