Marc 4
BCND

Marc 4

4
Dameg yr Heuwr
Mth. 13:1–9; Lc. 8:4–8
1Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr. 2Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai: 3“Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau. 4Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. 5Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear; 6a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. 7Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth. 8A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.” 9Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
Pwrpas y Damhegion
Mth. 13:10–17; Lc. 8:9–10
10Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion. 11Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion, 12fel
“ ‘er edrych ac edrych, na welant,
ac er clywed a chlywed, na ddeallant,
rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.’ ”
Egluro Dameg yr Heuwr
Mth. 13:18–23; Lc. 8:11–15
13Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion? 14Y mae'r heuwr yn hau y gair. 15Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt. 16A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen; 17ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith. 18Ac y mae eraill sy'n derbyn yr had ymhlith y drain: dyma'r rhai sydd wedi clywed y gair, 19ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o'r fath yn dod i mewn ac yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth. 20A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy'n clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”
Goleuni dan Lestr
Lc. 8:16–18
21Dywedodd wrthynt, “A fydd rhywun yn dod â channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren? 22Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i'r amlwg. 23Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.”
24Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi. 25Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”
Dameg yr Had yn Tyfu
26Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear 27ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef. 28Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen. 29A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae'n bwrw iddi ar unwaith â'r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod.”
Dameg yr Hedyn Mwstard
Mth. 13:31–32; Lc. 13:18–19
30Meddai eto, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi? 31Y mae'n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw'r lleiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear, 32ond wedi ei hau, y mae'n tyfu ac yn mynd yn fwy na'r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod.”
Arfer Damhegion
Mth. 13:34–35
33Ar lawer o'r fath ddamhegion yr oedd ef yn llefaru'r gair wrthynt, yn ôl fel y gallent wrando; 34heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt. Ond o'r neilltu byddai'n egluro popeth i'w ddisgyblion ei hun.
Gostegu Storm
Mth. 8:23–27; Lc. 8:22–25
35A'r diwrnod hwnnw, gyda'r nos, dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i'r ochr draw.” 36A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef. 37Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau'n ymdaflu i'r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi. 38Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, “Athro, a wyt ti'n hidio dim ei bod ar ben arnom?” 39Ac fe ddeffrôdd a cheryddu'r gwynt a dweud wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. 40A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?” 41Daeth ofn dirfawr arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.”

© Cymdeithas y Beibl 2004

© British and Foreign Bible Society 2004

Learn More About Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004