YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 24

24
Rhagfynegi Dinistr y Deml
Mc. 13:1–2; Lc. 21:5–6
1Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml. 2Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”
Dechrau'r Gwewyr
Mc. 13:3–13; Lc. 21:7–19
3Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?” 4Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo. 5Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer. 6Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto. 7Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau. 8Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll. 9Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i. 10A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd. 11Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer. 12Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri. 13Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. 14Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.
Y Gorthrymder Mawr
Mc. 13:14–23; Lc. 21:20–24
15“Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd) 16“yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. 17Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ; 18a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. 19Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! 20A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth, 21oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith. 22Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu. 24Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl. 25Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw. 26Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu. 27Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn. 28Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid#24:28 Groeg, eryrod..
Dyfodiad Mab y Dyn
Mc. 13:24–27; Lc. 21:25–28
29“Yn union ar ôl gorthrymder y dyddiau hynny,
“ ‘Tywyllir yr haul,
ni rydd y lloer ei llewyrch,
syrth y sêr o'r nef,
ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.’
30“A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr. 31Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.
Gwers y Ffigysbren
Mc. 13:28–31; Lc. 21:29–33
32“Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. 33Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. 34Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. 35Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.
Y Dydd a'r Awr Anhysbys
Mc. 13:32–37; Lc. 17:26–30, 34–36
36“Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig. 37Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. 38Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch, 39ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. 40Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall. 41Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall. 42Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd. 43Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ. 44Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.
Y Gwas Ffyddlon neu Anffyddlon
Lc. 12:41–48
45“Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd? 46Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw; 47yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo. 48Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi’, 49a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, 50yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; 51ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

Currently Selected:

Mathew 24: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy