YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 20

20
Y Gweithwyr yn y Winllan
1“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan. 2Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian#20:2 Neu, o ddenarius. Gw. nodyn ar Mth. 18:28. Felly hefyd yn adn. 9, 10 a 13. y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan. 3Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad. 4Dywedodd wrthynt hwythau, ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg’; 5ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen. 6Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’ 7‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef. 8Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.’ 9Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un. 10A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd. 11Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ 12gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’ 13Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi? 14Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau. 15Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni? 16Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ ”
Iesu y Drydedd Waith yn Rhagfynegi ei
Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Mc. 10:32–34; Lc. 18:31–34
17Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt, 18“Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, 19a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir.”
Cais Iago ac Ioan
Mc. 10:35–45
20Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo. 21Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.” 22Atebodd Iesu, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?” “Gallwn,” meddent. 23Dywedodd wrthynt, “Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad.” 24Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd. 25Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, “Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt. 26Ond nid felly y mae i fod yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, 27a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi, 28fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
Iacháu Dau Ddyn Dall
Mc. 10:46–52; Lc. 18:35–43
29Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef. 30Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” 31Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” 32Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?” 33Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.” 34Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.

Currently Selected:

Mathew 20: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy