YouVersion Logo
Search Icon

Luc 17

17
Rhai o Ddywediadau Iesu
Mth. 18:6–7, 21–22; Mc. 9:42
1Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt; 2byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn. 3Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo; 4os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n ôl atat saith gwaith gan ddweud, ‘Y mae'n edifar gennyf’, maddau iddo.”
5Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, “Cryfha ein#17:5 Neu, Dyro i ni. ffydd.” 6Ac meddai'r Arglwydd, “Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, ‘Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr’, a byddai'n ufuddhau i chwi.
7“Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, ‘Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd’? 8Na, yr hyn a ddywed fydd, ‘Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.’ 9A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd? 10Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, ‘Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.’ ”
Glanhau Deg o Wahangleifion
11Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy'r wlad rhwng Samaria a Galilea, 12ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho 13a chodi eu lleisiau arno: “Iesu, feistr, trugarha wrthym.” 14Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, “Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy. 15Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iacháu, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw â llais uchel. 16Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef. 17Atebodd Iesu, “Oni lanhawyd y deg? Ble mae'r naw? 18Ai'r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw?” 19Yna meddai wrtho, “Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.”
Dyfodiad y Deyrnas
Mth. 24:23–28, 37–41
20Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, “Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw. 21Ni bydd pobl yn dweud, ‘Dyma hi’, neu ‘Dacw hi’; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith#17:21 Neu, y mae teyrnas Dduw o'ch mewn. Neu, y mae teyrnas Dduw o fewn eich cyrraedd. Neu, daw teyrnas Dduw yn sydyn i'ch plith. chwi.” 22Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono. 23Dywedant wrthych, ‘Dacw ef’, neu ‘Dyma ef’; peidiwch â mynd, peidiwch â rhedeg ar eu hôl. 24Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef. 25Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon. 26Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn: 27yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb. 28Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tân a brwmstan o'r nef a difa pawb. 30Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn. 31Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tŷ, peidied â mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae â throi yn ei ôl. 32Cofiwch wraig Lot. 33Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw. 34Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall. 35Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall.#17:35 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 36 Bydd dau yn y cae; cymerir y naill a gadewir y llall.37Ac atebasant hwythau ef, “Ble, Arglwydd?” Meddai ef wrthynt, “Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.”

Currently Selected:

Luc 17: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy