YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad 5

5
Gweddïo am Drugaredd
1Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni;
edrych a gwêl ein gwarth.
2Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid,
a'n tai i ddieithriaid.
3Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,
a'n mamau fel gweddwon.
4Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,
a phrynu'r coed a gawn.
5Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;
yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
6Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,
ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
7Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;
ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
8Caethweision sy'n llywodraethu arnom,
ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
9Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,
oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
10Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn
oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
11Treisir gwragedd yn Seion,
a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
12Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,
ac ni pherchir yr henuriaid.
13Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,
a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
14Gadawodd yr henuriaid y porth,
a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.
15Diflannodd llawenydd o'n calonnau,
a throdd ein dawnsio yn alar.
16Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;
gwae ni, oherwydd pechasom.
17Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,
ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
18am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,
a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
19Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,
ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
20Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd,
ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
21 ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn;
adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
22os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr,
ac yn ddig iawn wrthym.

Currently Selected:

Galarnad 5: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy