YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 36

36
Asyria yn Erbyn Jerwsalem
2 Bren. 18:13–27; 2 Cron. 32:1–19
1Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn. 2Ac anfonodd brenin Asyria y prif swyddog#36:2 Neu, Rabsace. â byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia; ac fe safodd wrth bistyll y Llyn Uchaf, sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr. 3Daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, ato i'r fan honno, a chydag ef Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur. 4Dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria: ‘Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt? 5A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn? 6Ai'r Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno. 7Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yr addolwch”? 8Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt. 9Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion? 10Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, “Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi”.’ ”
11Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.” 12Ond atebodd y prif swyddog, “Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?” 13Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria; 14dyma y mae'n ei ddweud: ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu. 15Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria.” 16Peidiwch â gwrando ar Heseceia.’ Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi; dewch allan ataf; ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed dŵr o'i ffynnon ei hun, 17nes i mi ddod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd. 18Cymerwch ofal rhag i Heseceia eich hudo chwi trwy ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.” A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria? 19Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael? 20Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut, ynteu, y mae'r ARGLWYDD yn mynd i waredu Jerwsalem o'm gafael?’ ” 21Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb. 22Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho yr hyn yr oedd y prif swyddog wedi ei ddweud.

Currently Selected:

Eseia 36: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy