YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 34

34
Barn ar y Cenhedloedd
1Nesewch i wrando, chwi genhedloedd;
clywch, chwi bobloedd.
Gwrandawed y ddaear a'i llawnder,
y byd a'i holl gynnyrch.
2Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl,
a'i lid ar eu holl luoedd;
difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.
3Bwrir allan eu lladdedigion,
cyfyd drewdod o'u celanedd,
a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.
4Malurir holl lu'r nefoedd,
plygir yr wybren fel sgrôl,
a chwymp ei holl lu,
fel cwympo dail oddi ar winwydden
a ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
5Canys ymddengys#34:5 Felly Sgrôl A. TM, mwydo. cleddyf yr ARGLWYDD#34:5 Tebygol. Hebraeg, fy nghleddyf. yn y nef;
wele, fe ddisgyn ar Edom,
ar y bobl a ddedfryda#34:5 Tebygol. Hebraeg, a ddedfrydaf. i farn.
6Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf
wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,
ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.
Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,
a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy,
a bustych gyda theirw;
mwydir eu tir gan waed,
a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.
8Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial,
a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.
9Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;
bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;
10nis diffoddir na nos na dydd,
a bydd ei mwg yn esgyn am byth.
O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,
ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.
11Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn,
a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno;
bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn,
a phlymen tryblith dros ei dewrion.
12Fe'i gelwir yn lle heb deyrn,
a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.
13Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau,
danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd;
bydd yn drigfan i fleiddiaid,
yn gyrchfan i estrys.
14Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi,
a'r bwchgafr yn galw ar ei gymar;
yno hefyd y clwyda'r frân nos
ac y daw o hyd i'w gorffwysfa.
15Yno y nytha'r dylluan,
a dodwy ei hwyau a'u deor,
a chasglu ei chywion dan ei hadain;
yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu,
pob un gyda'i gymar.
16Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD,
darllenwch ef;
ni chollir dim un o'r rhain,
ni fydd un ohonynt heb ei gymar;
canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd,
a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd.
17Ef hefyd a drefnodd eu cyfran,
a'i law a rannodd iddynt â llinyn mesur;
cânt ei meddiannu hyd byth,
a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Currently Selected:

Eseia 34: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy