YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 50

50
1Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu. 2Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel 3dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod.
4Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, “Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch, 5‘Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, “Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan.” Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn ôl.’ ” 6Atebodd Pharo, “Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu.” 7Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei dŷ, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, 8holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen. 9Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt. 10Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod. 11Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, “Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid.” Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim#50:11 H.y., Galar yr Aifft.. 12A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt; 13oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd. 14Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.
Joseff yn Tawelu Ofnau ei Frodyr
15Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.” 16A daethant at#50:16 Felly Groeg. Hebraeg, A gorchmynasant. Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw, 17‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef. 18Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.” 19Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw? 20Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl. 21Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.
Marw Joseff
22Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd, 23a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse. 24Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, “Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob.” 25A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, “Y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi; ewch chwithau â'm hesgyrn i fyny oddi yma.” 26Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.

Currently Selected:

Genesis 50: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy