YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 2

2
1ac yn dweud wrthyf, “Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf â thi.” 2Ac fel yr oedd yn siarad â mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad â mi. 3Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw. 4At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’ 5Prun bynnag a wrandawant ai peidio—oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt—fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg. 6A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio#2:6 Tebygol. Hebraeg, ddrain., a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. 7Ond llefara di fy ngeiriau wrthynt, p'run bynnag a wrandawant ai peidio, oherwydd gwrthryfelwyr ydynt.
8“Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.” 9Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrôl ynddi. 10Datododd y sgrôl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae.

Currently Selected:

Eseciel 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy