YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 2

2
Disgynyddion Jwda
1Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Sabulon, 2Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad ac Aser.
3Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanëes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef. 4Yr oedd Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, yn fam i'w feibion Phares a Sera; pump o feibion i gyd oedd gan Jwda. 5Meibion Phares: Hesron a Hamul. 6Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd. 7Mab Carmi: Achar, yr un a flinodd Israel trwy dwyllo gyda'r diofryd. 8Mab Ethan: Asareia.
Llinach Dafydd
9Meibion Hesron: ganwyd iddo Jerahmeel, Ram, Celubai. 10Ram oedd tad Amminadab; Amminadab oedd tad Nahson, pennaeth tylwyth Jwda; 11Nahson oedd tad Salma; Salma oedd tad Boas; 12Boas oedd tad Obed; ac Obed oedd tad Jesse; 13Jesse oedd tad Eliab, ei gyntafanedig, Abinadab yn ail, Simma yn drydydd, 14Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed, 15Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed, 16a'u chwiorydd hwy, Serfia ac Abigail. Meibion Serfia: Abisai, Joab, Asahel, tri. 17Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.
Disgynyddion Hesron
18Yr oedd Asuba, gwraig Caleb fab Hesron, yn fam i Jerioth#2:18 Cymh. Fersiynau. Hebraeg yn aneglur., ac i Jeser, Sohab ac Adron. 19Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur. 20Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.
21Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub. 22Segub oedd tad Jair, a oedd yn berchen ar dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead. 23Fe gymerodd oddi ar Gesur ac Aram Hafoth-jair, a Chenath a'i phentrefi, sef trigain o ddinasoedd. Yr oedd y rhain i gyd yn perthyn i feibion Machir tad Gilead. 24Ar ôl marw Hesron, priododd Caleb Effrata, gwraig ei dad Hesron, a hi oedd mam ei fab Ashur, tad Tecoa.
Disgynyddion Jerahmeel
25Meibion Jerahmeel, cyntafanedig Hesron: Ram yr hynaf, Buna, Oren, Osem, Aheia. 26Yr oedd gan Jerahmeel wraig arall o'r enw Atara; hi oedd mam Onam. 27Meibion Ram, cyntafanedig Jerahmeel: Maas, Jamin, Ecer. 28Meibion Onam: Sammai a Jada. Meibion Sammai: Nadab ac Abisur. 29Enw gwraig Abisur oedd Abihail; hi oedd mam Aban a Molid. 30Meibion Nadab: Seled ac Appaim; a bu farw Seled yn ddi-blant. 31Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai. 32Meibion Jada, brawd Sammai: Jether a Jonathan; a bu farw Jether yn ddi-blant. 33Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Y rhain oedd meibion Jerahmeel.
34Nid oedd gan Sesan feibion, dim ond merched. Yr oedd ganddo was o Eifftiad o'r enw Jarha, 35ac fe roddodd Sesan ei ferch yn wraig iddo. Hi oedd mam Attai. 36Attai oedd tad Nathan, a Nathan oedd tad Sabad. 37Sabad oedd tad Efflal, Efflal oedd tad Obed, 38Obed oedd tad Jehu, Jehu oedd tad Asareia, 39Asareia oedd tad Heles, Heles oedd tad Eleasa, 40Eleasa oedd tad Sisamai, Sisamai oedd tad Salum, 41Salum oedd tad Jecameia, Jecameia oedd tad Elisama.
Disgynyddion Caleb
42Meibion Caleb brawd Jerahmeel: Mesa, ei gyntafanedig, tad Siff, a'i fab Maresa, tad Hebron. 43Meibion Hebron: Cora, Tappua, Recem, Sema. 44Sema oedd tad Raham, tad Jorcoam; a Recem oedd tad Sammai. 45Mab Sammai oedd Maon, a Maon oedd tad Beth-sur. 46Effa, gordderchwraig Caleb, oedd mam Haran, Mosa, Gases; a Haran oedd tad Gases. 47Meibion Jahdai: Regem, Jotham, Gesan, Pelet, Effa, Saaff. 48Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, oedd mam Seber a Tirhana. 49Hi hefyd oedd mam Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena a Gibea; merch Caleb oedd Achsa.
50Y rhain oedd meibion Caleb. Meibion Hur, cyntafanedig Effrata: Sobal tad Ciriath-jearim, 51Salma tad Bethlehem, Hareth tad Beth-gader. 52Meibion Sobal tad Ciriath-jearim: Haroe, hanner y Manahethiaid, 53sef tylwythau Ciriath-jearim, sef yr Ithriaid, y Puhiaid, y Sumathiaid, y Misraiaid; eu disgynyddion hwy oedd y Sorathiaid a'r Estauliaid. 54Meibion Salma: Bethlehem, y Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, hanner y Manahethiaid, y Soriaid, 55tylwythau'r Soffriaid oedd yn Jabes, y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Y rhain oedd y Ceniaid, disgynyddion Hemath tad tylwyth Rechab.

Currently Selected:

1 Cronicl 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy