Luc 6
6
Y Dysgyblion yn tynu tywysenau ar y Sabbath
[Mat 12:1–8; Marc 2:23–28]
1A bu ar ddydd Sabbath#6:1 Amrywiol farnau ynghylch ystyr y geiriau ail‐brif Sabbath, megys (1) Y Sabbath cyntaf yn canlyn yr ail ddiwrnod o'r Pasc, (2) Y Sabbath cyntaf yn yr ail flwyddyn o'r saith blwyddyn Sabbathaidd, (3) Y Sabbath cyntaf yn y flwyddyn Eglwysig. Dechreuai y flwyddyn wladol yn Tisri, a'r flwyddyn eglwysig chwe mis ar ol hyn, yn Nisan. Felly, gelwid y Sabbath cyntaf yn y flwyddyn wladol y cyntaf‐gyntaf, a'r Sabbath cyntaf yn y flwyddyn eglwysig yr ail‐gyntaf, (4) Y Sabbath cyntaf o'r ail fis [Gwel Godet, Alford, Meyer, Farrar].#6:1 ar yr ail‐brif (neu ail‐gyntaf) Sabbath A C D [Al.] [La.] [Ti.] Gad. א B L Tr. WH. Diw. Tebygol mai esboniad neu eglurhâd rhyw gopiwyr oedd deuteroprôtô; i prôtô gael ei ysgrifenu am y Sabbath hwn, fel y cyntaf ar ol yr hwn a nodir yn 5:6; yna, efallai, arall a ysgrifenodd deuterô, ail, gan ei ystyried fel yr ail o'r Sabbath a nodir 4:31. Yna gwnaethpwyd un gair o ddau. Nid yw yn debyg y defnyddiai Luc y fath air heb unrhyw esboniad pan yn ysgrifenu at Genedloedd. iddo fyned drwy y meusydd ŷd, a'i Ddysgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gan eu rhuglo â'u dwylaw. 2A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant#6:2 wrthynt A; Gad. א B C L., Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn#6:2 ei wneuthur A C; Gad. B D L. ar y Sabbath#6:2 Neu, Sabbathau.#Ex 20:8–11? 3A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch gymaint a hyn, y peth a wnaeth Dafydd, pan y daeth chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef? 4Y#6:4 [dim nodyn.] modd yr aeth efe i Dŷ Dduw, ac a gymmerodd ac a fwytâodd y Torthau Gosod#6:4 Gwel Marc 2:26, ac a roddodd i'r rhai oedd gyd âg ef#1 Sam 21:1–6; y rhai nid ydyw gyfreithlawn eu bwyta ond i'r Offeiriaid yn unig#Lef 24:9. 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath#6:5 Darllena D yr adnod hon ar ol adnod 10 ac yn ei lle gosoda i fewn “Ar yr un dydd, ac efe yn gweled un yn gweithio ar y Sabbath, efe a ddywedodd wrtho, O ddyn, os ydwyt yn gwybod pa beth yr wyt yn ei wneuthur, gwyn dy fyd; ond os nad wyt yn gwybod, melldigedig wyt a throseddwr y Gyfraith.”.
Iachâu y llaw wywedig
[Mat 12:9–14; Marc 3:1–6]
6A bu ar#6:6 hefyd A; Gad. א B. Sabbath arall iddo fyned i mewn i'r Synagog, a dysgu: ac yr oedd dyn yno a'i law ddeheu wedi gwywo. 7A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef yn ddyfal#6:7 Llyth.: a'i gwyliasant ef drostynt eu hunain yn ddyfal, [felly y prif‐law Ysg.], a#6:7 a ydyw ef yn iachau א B. iachâi efe ar y Sabbath, fel y caffent fodd i'w#6:7 i gyhuddo א B X; gyhuddiad A L, gyhuddo ef. 8Ond efe a wybu eu hymresymiadau#6:8 Neu, meddyliau. hwy, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod, a saf yn#6:8 Llyth.: i'r canol. y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. 9A'r Iesu#6:9 am hyny A X; Gad. א B D L. a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf finau yn gofyn i chwi, Os#6:9 os א B D L; beth A. yw gyfreithlawn ar y Sabbath i wneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, neu golli#6:9 Neu, achub enaid, neu ei ddyfetha.? 10Ac wedi edrych oddi amgylch arnynt oll, efe a ddywedodd wrtho#6:10 wrtho ef A B Al. Tr. WH. Diw.; wrth y dyn D L X. ef, Estyn allan dy law. Ac efe a wnaeth#6:10 felly K; Gad. א A B, &c.: a'i law ef a adferwyd#6:10 yn iach E; Gad. yr holl brif‐law ysgrifau; fel y llall A D; Gad. א B L [Gwel Mat 12:13].. 11A hwy a lanwyd o wallgofrwydd#6:11 Anoia, heb ddealltwriaeth, ansynwyredd, ynfydrwydd anwybodus, gwallgofrwydd disynwyr, ffolineb drygionus [yma, ac yn 2 Tim 3:9], ac a gyd-ymddiddanent a'u gilydd, pa beth a wnaent i'r Iesu.
Dewisiad y Deuddeg
[Mat 10:1–4; Marc 3:7–21]
12A bu yn y dyddiau hyny, fyned o hono allan i'r mynydd i weddio. Ac efe a barhâodd drwy y nos#6:12 Llyth.: a noswyliodd [yma yn unig y dygwydda y gair, ac y cofnodir yr amgylchiad]. mewn gweddi at Dduw.
13A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei Ddysgyblion: ac efe a etholodd allan o honynt Ddeuddeg, y rhai a gyfenwodd efe yn Apostolion#6:13 Ni ddefnyddir y gair ond unwaith yn mhob un o'r Efengylau eraill. Golyga Apostolos, Un anfonedig, yn enwedig o radd uchel ac ar neges pwysig. Y mae Paul a Luc yn hoff iawn o'r gair. Defnyddiant ef yn fynych.: 14Simon yr hwn hefyd a gyfenwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd; ac Iago, ac Ioan; a Philip, a Bartholomëus; 15a Matthew, a Thomas; ac Iago mab Alphëus, a Simon, yr hwn a elwir y Zelotiad: 16a Judas mab#6:16 Nid oes unrhyw reswm dros gredu mai brawd Iago oedd y Judas hwn: felly, gwell cyfieithu fel arfer, mab Iago. Iago, a Judas Iscariot, yr hwn oedd Fradwr. 17Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd ar le gwastad, a thyrfa o'i Ddysgyblion ef, a lluaws mawr o'r bobl, o holl Judea a Jerusalem, ac o arfordir Tyrus a Sidon, 18y rhai a ddaethant i wrando arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau: a'r rhai a flinid gan#6:18 Llyth.; oddiwrth (yn ol y prif‐law‐ysg). ysprydion aflan a#6:18 a hwy X; Gad. א A B D L iachâwyd. 19A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef, canys gallu oedd yn myned allan oddiwrtho, ac yn iachâu pawb.
Y Gwynfydedigion
[Mat 4:25—5:12]
20Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid ar#6:20 Llyth.: tu ag at, i gyfeiriad. ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd,
Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw Teyrnas Dduw.
21Gwyn eich byd y rhai ydych mewn newyn yr awrhon: canys chwi a a ddigonir.
Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.
22Gwyn eich byd pan y cashâo dynion chwi, ac y'ch hesgymunant#6:22 Llyth.: y'ch gwahanant., ac y'ch gwaradwyddant, ac a daflant allan eich enw fel drwg er mwyn Mab y Dyn.
23Llawenychwch y dydd hwnw, a llemwch gan lawenydd: canys wele, eich gwobr sydd fawr#6:23 Llyth. lawer. yn y Nef: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eu Tadau i'r Prophwydi.
24Yn mhellach, Gwae chwi y Cyfoethogion, canys yr ydych yn derbyn yn llawn eich diddanwch#6:24 Neu, cysur..
25Gwae chwi, y rhai ydych lawnion yr awrhon: canys chwi a newynwch.
Gwae chwi, y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26Gwae chwi, pan ddywedo pob dynion yn dda am danoch: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eich Tadau i'r Gau‐Brophwydi.
Pa beth yw Cariad Cristionogol
[Mat 5:38–48]
27Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt: 28bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gweddiwch ar ran y rhai a ymddygant yn faleisus#6:28 Epêreazô, camdrin o falais, sarhâu, diystyru; hefyd, cyhuddo ar gam (1 Petr 3:16). tu ag atoch: 29i'r hwn a'th darawo ar y gern#6:29 Llyth.; asgwrn‐gên., cynyg y llall hefyd; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy wisg‐uchaf, na chadw yn ol dy is‐wisg chwaith. 30Dyro i bob un a geisio genyt; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy eiddo, na cheisia ef yn ol. 31Ac yn y modd yr ewyllysiech i ddynion i wneuthur i chwi, gwnewch chwithau hefyd yr un ffunud.
32Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae y pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u carant hwy. 33Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd y nod y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth. 34Ac os rhoddwch fenthyg i'r rhai yr ydych chwithau yn gobeithio derbyn#6:34 derbyn א B L; derbyn yn ol A D X. oddiwrthynt, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys hefyd y mae pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont yn ol yr hyn sydd gyfartal. 35Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio#6:35 Apelpizô, anobeithio (yn Polybius. “A'r tlodion [rhai anobeithiol LXX.] a ymhyfrydant yn Sanct Israel” Es 29:19); “yn anobeithio am ei iechyd” (2 Mac 9:18). Rhai a ddarllenant, “Heb anobeithio am neb.” mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
Tosturi a Thrugaredd
[Mat 7:1–5]
36Byddwch#6:36 gan hyny A X; Gad. א B D L. dosturiol, yr un modd ag y mae eich Tâd yn dosturiol. 37Ac na fernwch, ac ni'ch bernir ddim: ac na chondemniwch, ac ni'ch condemnir ddim: gollyngwch yn rhydd, a chwithau a ollyngir yn rhydd: 38rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu#6:38 Yma yn unig yn y T. N. ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan#6:38 Yma yn unig yn y T. N. drosodd, a roddant i'ch mynwes#6:38 Gwel Es 65:7; Jer 32:18: canys â'r mesur#6:38 un mesur A C; mesur א B D L. y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau.
39Ac efe a ddywedodd hefyd#6:39 hefyd א B C D L; Gad. A. ddammeg wrthynt, Yn wir a ddichon dyn dall dywys dyn dall? Oni syrthiant ill dau i mewn i'r ffos? 40Nid ydyw dysgybl uwchlaw yr#6:40 yr athraw א B D L; ei athraw A C. athraw: ond pob un sydd wedi ei lawn‐gymhwyso#6:40 Katartizô, gosod (megys esgyrn yn eu lle), cyweirio (rhwydau, Mat 4:21) perffeithio (moliant, Mat 21:16), cymhwyso (i golledigaeth Rhuf 9:22), adferu (Gal 6:1); felly golyga cymhwyso, cynysgaethu. a fydd fel ei athraw.
41A phaham yr wyt yn edrych ar yr asglodyn#6:41 Karphos, yr hyn sydd wedi sychu i fyny, gwywo. Defnyddir y gair am ddarnau bychain o goed, gwellt, &c., wedi sychu i fyny. Y mae yr asglodyn o'r un sylwedd a'r trawst. yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn darganfod#6:41 Canfod, deall (20:23) darganfod (Act 27:39) ystyried (Luc 12:24, 27; Rhuf 4:19; Heb 3:1; 10:24). y trawst yn dy lygad dy hun? 42Pa#6:42 Neu, A C D; Gad. א B. fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gâd i mi fwrw allan yr asglodyn sydd yn dy lygad, a thithau dy hun heb edrych ar y trawst sydd yn dy lygad? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw allan yr asglodyn sydd yn llygad dy frawd.
Y galon a'r bywyd
[Mat 7:15–20]
43Canys nid oes un pren da sydd yn dwyn#6:43 Llyth.: gwneyd. ffrwyth gwael#6:43 Gwel Mat 7:17, nac ychwaith#6:43 ychwaith א B L Brnd.; Gad. A C D. un pren gwael#6:43 Gwel Mat 7:17 sydd yn dwyn#6:43 Llyth.: gwneyd. ffrwyth da. 44Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed#6:44 Casglu cynhauaf o [o trugê, sych, addfed]. swp o rawnwin. 45Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn#6:45 dyn A C. Gad. א B D L. drwg allan o'r drwg#6:45 o'r drwg (o'r hyn sydd ddrwg) א B D L Brnd.; o drysor drwg ei galon A C. a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon#6:45 calon א A B D, &c. y galon C L. y mae ei enau yn llefaru. 46A phaham yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?
Y ddau Adeiladwr
[Mat 7:21–27]
47Pwy bynag sydd yn dyfod ataf fi, ac sydd yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb: 48cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sylfaen ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant#6:48 Neu, diluw., y cenllif a dorodd yn erbyn y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo, am ei fod wedi ei adeiladu#6:48 am ei fod wedi ei adeiladu yn dda א B L Brnd.; canys yr oedd wedi ei sylfaenu ar y graig A C D La. yn dda. 49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, sydd gyffelyb i ddyn yn adeiladu tŷ ar y ddaear heb sylfaen; yn erbyn yr hwn y torodd y cenllif, ac yn ebrwydd y#6:49 y syrthiodd i fewn [llyth.: ynghyd] א B Brnd. syrthiodd i fewn#6:49 syrthiodd yn grynswth.; a'r niwed#6:49 Llyth.: rhwygiad, yna, niwed, dinystr [Mat cwymp]. i'r tŷ hwnw oedd fawr.
Currently Selected:
Luc 6: CTE
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.