Luc 3
3
Ioan Fedyddiwr yn Pregethu ac yn Bedyddio
[Mat 3:1–12; Marc 1:1–8; Ioan 1:23]
1Yn y bymthegfed flwyddyn#3:1 Cyfrifa Luc o flwyddyn Rhufain 765, pan y dechreuodd Tiberius gyd-deyrnasu âg Augustus, ac nid o 767, pan y canlynodd fel yr unig Ymerawdwr. Yr oedd Crist felly yn 30 oed. o Deyrnasiad Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn Llywodraethwr Judea, a Herod#3:1 Herod Antipas, mab Herod Fawr. yn Detrarch#3:1 Llyth.: llywodraethwr ar bedwaredd ran. Galilea, a Philip#3:1 Mab Herod Fawr a Chleopatra. ei Frawd yn Detrarch gwlad Iturea#3:1 Talaeth fechan yn y Gog. Orll. o Palestina, yn ymyl mynydd Hermon (o Jetur, mab Ismael, Gen 25:15, 16). a Trachonitis#3:1 Gr. am Argob, rhwng Anti‐libanus a mynyddoedd Batanea., a Lysanias#3:1 Enw anadnabyddus. yn Detrarch Abilene#3:1 Abila oedd dref 18 milldir o Damascus., 2yn Arch‐offeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth Gair Duw at Ioan, mab Zechariah, yn y Diffaethwch. 3Ac efe a ddaeth i bob goror o amgylch yr Iorddonen, gan bregethu Bedydd Edifeirwch er Maddeuant#3:3 Aphesis, danfoniad ymaith, rhyddhâd (megys o gaethiwed, neu oddiwrth ddyled, felly, maddeuant.) Defnyddir y gair gan Luc yn fwy mynych na chan yr holl ysgrifenwyr eraill gyda'u gilydd. Mewn iaith feddygol, dynoda llaesu poenau, &c. pechodau: 4fel y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr Geiriau Esaiah y Proffwyd#3:4 Yr hwn sydd yn dywedyd A C. Gad. א B D L.,
Llef un yn llefain#3:4 Neu, Llef un yn llefain yn y Diffaethwch, Gwel Mat 3:3; ac Es 40:3,
Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd,
Gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn;
5Pob ceunant a lenwir,
A phob mynydd a bryn#3:5 Bounos. gair o'r Cyrenaeg (Herodotus 4:199). Yr oedd mwy o Iuddewon yn Cyrene nag un ddinas Genedlig arall, gyd â'r eithriad o Alexandria. a ostyngir;
Y gŵyr‐bethau ydynt i fod yn uniawn,
A'r lleoedd geirwon i fod yn ffyrdd gwastad:
6A phob cnawd#3:6 Priodol i Luc ddyfynu yr adnod hon, gan ei fod yn ysgrifenu ar gyfer y Cenedloedd. a wêl Iachawdwriaeth Duw.#Es 40:3, 4, 5 LXX.
7Am hyny, efe a ddywedodd wrth y torfeydd sydd yn myned allan i'w bedyddio ganddo, O hiliogaeth#3:7 Llyth.: epilod. Sylwer ar iaith Ioan fel iaith yr Anialwch‐gwiberod‐ffrwyth‐bwyell‐sandalau‐nithraw‐llawrdyrnu‐llosgi yr us, &c. gwiberod! Pwy a'ch rhybuddiodd#3:7 Llyth.: dangos dan, yna, dangos neu fynegi yn ddirgelaidd, felly, rhybuddio. chwi i ffoi oddiwrth y Digofaint sydd ar ddyfod? 8Dygwch#3:8 Llyth.: gwnewch, llawn ystyr, dygwch ar unwaith. gan hyny ffrwythau teilwng o'r Edifeirwch. Ac na ddechreuwch#3:8 Na ddechreuwch o gwbl. ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn Dâd: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw allan o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham. 9Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod#3:9 Neu, yn gorwedd. wrth wreiddyn y prenau: pob pren gan hyny a'r nid yw yn dwyn#3:9 Llyth.: gwneuthur. ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr, ac yn cael ei daflu i dân. 10A'r torfeydd oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hyny a wnawn ni? 11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ganddo ddwy o is‐wisgoedd#3:11 Gwel Mat 5:40, bydded iddo ranu â'r hwn nid oes ganddo, a'r hwn sydd ganddo fwyd, gwneled yr un modd. 12A daeth hefyd y Treth‐gasglwyr i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, Pa beth a wnawn ni? 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chodwch#3:13 Prassô, mynu, traws‐fynu, treis‐godi. Llyth.: ymarferyd. fwy na'r hyn sydd wedi ei drefnu i chwi. 14A milwyr#3:14 Llyth.: rhai oedd yn gwasanaethu fel milwyr. hefyd a ofynent iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fynwch arian oddiwrth neb trwy ei ddychrynu#3:14 Diaseiô (yma yn unig yn y T. N.). Llyth.: ysgwyd yn aruthr, yna, dychrynu, dychrynu er mwyn crib‐ddeiliaeth., na cham‐gyhuddwch#3:14 Sukophanteô, o sukon, ffigys, a phainô, ymddangos (yn erbyn). Yn Athen cyhuddid personau yn fynych o ddanfon ffigys allan o Attica (yr hyn nid ydoedd gyfreithlawn): weithiau, gwnelid hyn ar gam er cael gobrwy oddiwrth yr awdurdodau. Felly, o Aristophanes i lawr defnyddir y gair am gam‐gyhuddwyr., a byddwch foddlawn ar eich cyflogau#3:14 opsônia, llyth.: ymborth, lluniaeth, yna arian tu ag at ymborth, cyflog, [Gwel Rhuf 6:23]..
Cyhoeddiad o'r Messia.
15Ac fel yr oedd y bobl yn dysgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonau ynghylch Ioan, rhag ofn mai efe yw y Crist, 16Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt bawb oll, Yr wyf fi yn wir yn eich bedyddio chwi â#3:16 Neu, mewn. dwfr; ond y mae Un Cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid ydwyf fi deilwng#3:16 Gr. digonol. i ddatod carai ei sandalau: efe ei hun a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân ac yn tân. 17Yr hwn y mae ei nith‐raw#3:17 Gwel Mat 3:12. yn ei law, i#3:17 i lwyr‐lanhau א B Ti. WH. Diw.; ac a lwyr‐lanhâ A C D Tr. Al. lwyr‐lanhâu ei lawr‐dyrnu: ac efe a gasgl yr ŷd i'w ysgubor, ond yr us a lwyr‐losga efe â thân anniffoddadwy. 18A chyd â llawer o gynghorion#3:18 Llyth.: a chan gynghori llawer o bethau gwahanol. eraill gan hyny y pregethodd efe yr Efengyl i'r Bobl.
Carchariad Ioan
[Mat 14:3–5; Marc 6:17–20]
19Ond Herod y Tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias, gwraig ei#3:19 ei Frawd א B D L Brnd.; Philip ei Frawd A C. Frawd#Lef 18:16; 20:21, ac am yr holl bethau drwg#3:19 Ponêros, drwg, drygioni yn ei weithgarwch (Ho Ponêros. Yr Un Drwg). a wnaeth Herod, 20a ychwanegodd hyn hefyd uwchlaw#3:20 Neu, at. yr oll:— hyd y nod efe a gauodd ar Ioan mewn#3:20 mewn א B D L; yn y A C. carchar.
Bedyddiad Crist
21A bu, pan yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio, a'r Iesu hefyd wedi ei fedyddio, ac yn gweddïo, agorwyd y Nef, 22a disgynodd yr Yspryd Glân, mewn llun corfforol, fel colomen, arno ef#Es 11:2; a llef a ddaeth allan o'r Nef#3:22 gan ddywedyd A; Gad. א B D L Brnd.,
Ti wyt fy Anwyl Fab#3:22 Neu, Ti wyt Fy Mab, Yr Anwylyd.;
Ynot ti y'm boddlonwyd.
Achyddiaeth Crist
23A'r Iesu ei hun oedd, pan ddechreuodd#3:23 Sef, ei weinidogaeth gyhoeddus: [Nid] oedd ynghylch dechreu ei ddeng mlwydd ar hugain [Gwel Act 1:22]., ynghylch deng mlwydd ar hugain oed, ac yr oedd (fel y tybid) yn
Fab Joseph,
Fab Eli#3:23 Neu, Heli.,
24 Fab Mattathah [Gr. Matthat],
Fab Lefi,
Fab Malchiah [Gr. Melchi],
Fab Jannai,
Fab Joseph,
25 Fab Mattathiah,
Fab Amos,
Fab Nahum,
Fab Azaliah [Gr. Esli],
Fab Naggai [Neu, Nogah]
26 Fab Mahath [Gr. Maath],
Fab Mattathiah,
Fab Simei [Gr. Semein]
Fab Josech,
Fab Juda,
27 Fab Johanah [Gr. Johanan],
Fab Rhesa#3:27 Neu, Fab y Rhesa, Zerubbabel. Y mae yn debygol nad enw priodol yw Rhesa, ond golyga yn y Caldaeg. Tywysog, (“Mab y Tywysog Zerubbabel”).,
Fab Zerubbabel,
Fab Salathiel [Neu, Shealtiel],
Fab Neriah [Gr. Neri],
28 Fab Malchiah [Gr. Melchi],
Fab Adaiah [Gr. Addi],
Fab Cosam,
Fab Elmadam,
Fab Er,
29 Fab Josaia [Gr. Joses],
Fab Eliezer,
Fab Jorim,
Fab Mattathah,
Fab Lefi,
30 Fab Simeon,
Fab Juda [Gr. Judas]
Fab Joseph,
Fab Jonam,
Fab Eliacim,
31 Fab Melëa,
Fab Menna,
Fab Mattathah,
Fab Nathan,
Fab DAFYDD#2 Sam 5:14,
32 Fab Jesse#1 Cr 2:15; Ruth 4:18,
Fab Obed#1 Cr 2:12,
Fab Boaz#1 Cr 2:12,
Fab Salma#1 Cr 2:11; Gr. Salmon
Fab Nason#1 Cr 2:11; Gr. Naason,
33 Fab Amminadab#1 Cr 2:10,
Fab Ram#1 Cr 2:10; Gr. Aram,
Fab Hesron#1 Cr 2:9; Gr. Esrom,
Fab Phares#1 Cr 2:5,
Fab Juda#1 Cr 2:4,
34 Fab Jacob#Gen 29:35,
Fab Isaac#Gen 25:21,
Fab ABRAHAM#Gen 21:2,
Fab Terah#Gen 11:26; Gr. Thara,
Fab Nachor#Gen 11:24,
35 Fab Serug#Gen 11:22; Gr. Seruch,
Fab Reu#Gen 11:20; Gr. Ragau,
Fab Peleg#Gen 11:18; Gr. Phalek,
Fab Heber#Gen 10:24; Gr. Eber,
Fab Selah#Gen 10:24; Mab Arphacsad, Gr. Sala,
36 Fab Cenan [Gr. Kainan. Y mae ei enw yn y LXX., ond nid yn yr Heb.],
Fab Arphacsad#Gen 10:22,
Fab Shem [Gr. Sem],
Fab NOAH#Gen 5:32; Gr. Noe,
Fab Lamech#Gen 5:28,
37 Fab Methuselah#Gen 5:25; Gr. Mathousala,
Fab Enoch#Gen 5:22,
Fab Jered#Gen 5:18; Gr. Jared,
Fab Mahalaleel#Gen 5:15; Gr. Maleleel,
Fab Cenan#Gen 5:12; Gr. Kainan,
38 Fab Enos#Gen 5:9,
Fab Seth#Gen 5:6,
Fab Adda#Gen 5:3; Gr. Adam,
Fab DUW#Gen 1:27; 5:1#3:38 Achyddiaeth Joseph yw y gyfres a geir yn Matthew a Luc. Y mae eiddo Matthew yn profi fod Joseph yn etifedd Ty Breiniol Dafydd; y mae eiddo Luc yn rhoddi ei achyddiaeth anghyhoedd. Dengys Matthew ei fod yn yr olyniaeth. Dengys Luc ei ddisgyniad o dâd i fab. Y mae y ddwy gyfres yn cyfarfod yn Matthat, yr hwn y dywedir fod ganddo ddau fab, Jacob a Heli [Mat 1:15; Luc 3:23]. Lled debyg mai mab Heli oedd Joseph, ac nad oedd gan Jacob feibion: hefyd, tebygol mai merch Jacob ydoedd Mair (felly yn gyfnither i Joseph). Os felly, y mae y gyfres yn dangos achyddiaeth Mair yn gystal ag eiddo Joseph..
Currently Selected:
Luc 3: CTE
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.