YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 1

1
PEN. I.—
1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Hosea,#Osee. Vulg. LXX. fab Beeri; yn nyddiau Uzziah,#Ozias. Vulg. LXX. Jotham,#Joatham. LXX. Ahaz, Hezeciah, breninoedd Judah, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.
2Dechreu gair yr Arglwydd trwy#wrth neu at. Syr. Hosea:
A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea,
Dos, cymer i ti wraig o butain a phlant puteindra,#puteinderau. Vulg. A fu yn puteinio. Syr.
O herwydd gan buteinio y puteiniodd y wlad;
Oddiar ol yr Arglwydd.
3Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim:#Debelaim Vulg.
A hi a feichiogodd ac a anodd#esgorodd ar. iddo fab.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho;
Galw ei enw ef Jezreel:#Duw a haua; a wasgara Jezrahel. Vulg.
Canys yn mhen ychydig eto yr ymwelaf
A thŷ Jehu am waed Jezreel;
A gwnaf i freniniaeth tŷ Israel ddarfod.
5A bydd yn y dydd hwnw#ac yn y dydd hwnw y. Vulg.
Y toraf fwa Israel;
Yn nyffryn Jezreel.
6A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch;
Ac efe a ddywedodd wrtho,
Galw ei henw hi Lo Ruchamah#annhosturiedig.
Am na ychwanegaf mwyach dosturio wrth dŷ Israel;
Fel gan faddeu y maddeuwn#ond gan annghofio mi a’u hannghofiaf hwynt. Vulg. ond gan wrthwynebu mi â’u gwrthwynebaf hwynt. LXX. ond gan symud yr wyf yn eu symud. Syr. iddynt.
7Ond mi a dosturiaf wrth dŷ Judah,
Ac a’u hachubaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw;
Ac nid achubaf hwynt trwy fwa a thrwy gleddyf, a thrwy ryfel;
A thrwy feirch, a thrwy farchogion.
8A hi a ddiddyfnodd Lo Ruchamah;
Ac a feichiogodd ac a esgorodd ar fab.
9Ac efe a ddywedodd,
Galw ei enw ef Lo Ammi;#nid fy mhobl i.
Canys nid ydych bobl i mi;
Ac ni byddaf inau yn Dduw#yn eiddoch chwi. LXX., Vulg. a mi ni byddaf i chwi. Syr. i chwi.

Currently Selected:

Hosea 1: PBJD

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy