YouVersion Logo
Search Icon

Haggai 1

1
Cyflwyniad
1Ar ddiwrnod cynta’r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius,#1:1 chweched mis … Dareius Roedd mis Elwl yn calendr Babilon yn cyfateb i chweched mis y calendr Hebreig, o tua canol Awst i ganol Medi. Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Awst 29, 520 cc yn ein calendr ni. Dareius Hystaspes, oedd yn teyrnasu ar Ymerodraeth Persia o 522 i 486 cc. dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel,#1:1 Serwbabel fab Shealtiel Roedd Serwbabel yn ŵyr i Jehoiachin, brenin Jwda, gafodd ei gymryd yn gaeth i Babilon yn 597 cc (gw. 2 Brenhinoedd 24:15). llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:
Duw yn gorchymyn ailadeiladu’r Deml
2“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae’r bobl yma’n dweud, ‘Mae’n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”
3Ond yna dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD: 4“Ydy hi’n iawn eich bod chi’n byw yn eich tai crand, tra mae’r deml yma yn adfail? 5Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud!
6Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy’r cynhaeaf;
dych chi’n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;
dych chi’n yfed, ond heb gael eich bodloni;
dych chi’n gwisgo dillad, ond yn methu cadw’n gynnes;
mae fel petai’r cyflog mae pobl yn ei ennill
yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!
7Ie, meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud!’
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
8‘Ewch i’r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu’r deml;
bydd hynny’n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’
–meddai’r ARGLWYDD.
9‘Roeddech chi’n disgwyl cnydau da,
ond yn cael cnydau gwael.
Roeddech chi’n ei gasglu,
ond yna byddwn i’n ei chwythu i ffwrdd!’
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau’n rhy brysur yn poeni amdanoch chi’ch hunain!
10Dyna pam mae’r awyr heb roi gwlith,
a’r tir wedi peidio tyfu cnydau.
11Fi sydd wedi anfon sychder drwy’r wlad –
ar y bryniau,
ar yr ŷd a’r grawnwin a’r olewydd
a phopeth arall sy’n tyfu o’r ddaear,
ar bobl ac anifeiliaid,
ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”
Y bobl yn ufuddhau
12Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi’i anfon. Roedd y bobl yn parchu’r ARGLWYDD eto.
13Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i’r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai’r ARGLWYDD.”
14Dyma’r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw’n bwrw iddi â’r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus. 15Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o’r chweched mis.#1:15 pedwerydd ar hugain … mis sef 23 diwrnod ar ôl i Haggai gyflwyno ei neges gyntaf – gw. Haggai 1:1. Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Medi 21, 520 cc yn ein calendr ni.

Currently Selected:

Haggai 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy