YouVersion Logo
Search Icon

Haggai 2

2
Ysblander y deml
1Yna ar yr unfed ar hugain o’r seithfed mis#2:1 unfed ar hugain o’r seithfed mis y mis oedd Tishri (neu Ethanim), sef seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref. Hwn oedd diwrnod olaf Gŵyl y Pebyll (gw. Lefiticus 23:34). Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Hydref 17, 520 cc yn ein calendr ni. yn yr ail flwyddyn i’r Brenin Dareius deyrnasu, dyma’r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
2“Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a’r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dwed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd:
3‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm,#Esra 3:12 yn ei holl ysblander? A sut mae’n edrych i chi nawr? Dim byd o’i chymharu mae’n siŵr! 4Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb,’ – meddai’r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. 5‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’”
6“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i’n mynd i ysgwyd y nefoedd a’r ddaear, y môr a’r tir. 7Bydda i’n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw’n dod ac yn cyflwyno’u trysorau, a bydda i’n llenwi’r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. 8‘Fi piau’r arian, a fi piau’r aur,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. 9‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o’r blaen,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus; ‘a bydda i’n dod â llwyddiant a heddwch i’r lle yma.’ Ydy, mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi dweud.”
Holi’r offeiriaid am aflendid
10Ar y pedwerydd ar hugain o’r nawfed mis#2:10 pedwerydd ar hugain o’r nawfed mis y mis oedd Cislef, sef nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr. (Tri mis ar ôl i’r gwaith o ailadeiladu’r deml ddechrau.) Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Rhagfyr 18, 520 cc yn ein calendr ni. yn yr ail flwyddyn i’r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD:
11Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i’r offeiriaid am arweiniad o’r Gyfraith: 12‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi’i aberthu wedi’i lapio yn ei fantell, a’r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu ryw fwyd arall, fydd e’n gwneud y bwydydd hynny’n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.” 13A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy’n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw#Numeri 19:13,22 yn dod i gysylltiad â’r bwydydd hynny, fydd hynny’n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma’r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”
14Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae’r un peth yn wir am y bobl yma a’r genedl yma,’ meddai’r ARGLWYDD, ‘a’u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw’n ei offrymu yn aflan!
15“‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i’r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau. 16Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o’r cafn, doedd ond dau ddeg yno. 17Rôn i’n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai’r ARGLWYDD.
18“‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfeini eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o’r nawfed mis): 19Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy’r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a’r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i’n mynd i’ch bendithio chi.’”
Yr ARGLWYDD yn annog Serwbabel
20A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o’r mis: 21“Dwed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i’n mynd i ysgwyd y nefoedd a’r ddaear. 22Dw i’n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau’r gwledydd. Bydda i’n troi’r cerbydau rhyfel drosodd, gyda’i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a’u marchogion yn lladd ei gilydd.
23“‘Y diwrnod hwnnw,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – ‘bydda i’n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy.#2:23 sêl-fodrwy Cafodd yr un darlun i ddefnyddio i ddisgrifio’r Brenin Jehoiachin (taid Serwbabel; gw. Jeremeia 22:24-30 lle roedd Duw yn cymryd yr arwydd yma o awdurdod oddi ar Jehoiachin). Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.”

Currently Selected:

Haggai 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy