YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 3

3
Iesu’n dysgu Nicodemus
1Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o’r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o’r enw Nicodemus oedd y dyn. 2Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni’n gwybod dy fod di’n athro wedi’i anfon gan Dduw i’n dysgu ni. Mae’r gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.”
3Dyma Iesu’n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.”#3:3 oddi uchod: Neu o’r newydd. Mae’r un gair Groeg yn adn. 7 a 31.
4“Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae’n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw’n sicr ddim mynd i mewn i’r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!”
5Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd. 6Mae’r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy’n rhoi genedigaeth ysbrydol. 7Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’ 8Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti’n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae’n dod nac i ble mae’n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi’u geni drwy’r Ysbryd.”
9“Sut mae hynny’n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus.
10“Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a ti ddim yn deall! 11Cred di fi, dŷn ni’n siarad am beth dŷn ni’n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi’i weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni. 12Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy’n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi’n credu os gwna i siarad am bethau’r byd nefol? 13Does neb wedi bod i’r nefoedd, a fi, Mab y Dyn ydy’r unig un sydd wedi dod o’r nefoedd. 14Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch.#cyfeiriad at Numeri 21:9 Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath. 15Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol.
16“Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. 17Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd. 18Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. 19Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau. Pam? Am eu bod nhw’n gwneud pethau drwg o hyd. 20Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld. 21Ond mae’r rhai sy’n ufudd i’r gwir yn dod allan i’r golau, ac mae’n amlwg mai Duw sy’n rhoi’r nerth iddyn nhw wneud beth sy’n iawn.”
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr am Iesu
22Ar ôl hyn gadawodd Iesu a’i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu’n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl. 23Bryd hynny roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio. 24(Roedd hyn cyn i Ioan gael ei garcharu.) 25Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol.#3:25 ymolchi seremonïol: Roedd yr Iddewon yn cadw’r defodau yma i baratoi eu hunain ar gyfer addoli Duw. 26Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti’n gwybod y dyn rwyt ti wedi bod yn sôn amdano – yr un oedd gyda ti yr ochr draw i afon Iorddonen? Wel, mae e’n bedyddio hefyd, ac mae pawb yn mynd ato fe.”
27Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi iddo mae rhywun yn gallu wneud. 28Dych chi’n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy’r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o’i flaen e.’ 29Mae’r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae’r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae’n digwydd. A dyna pam dw i’n wirioneddol hapus. 30Rhaid iddo fe ddod i’r amlwg; rhaid i mi fynd o’r golwg.”
Yr un ddaeth o’r nefoedd
31Daeth Iesu o’r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o’r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth. 32Mae’n dweud am beth mae wedi’i weld a’i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu! 33Ond mae’r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir. 34Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw’n ei ddweud. Mae Duw’n rhoi’r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl. 35Mae Duw y Tad yn caru’r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e. 36Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy’n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o’r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.

Currently Selected:

Ioan 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy