YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 16

16
1“Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i. 2Byddwch chi’n cael eich diarddel o’r synagog. Ac mae’r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw’n gwneud ffafr i Dduw os gwnân nhw’ch lladd chi. 3Byddan nhw’n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi. 4Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, felly pan ddaw’r amser hwnnw byddwch chi’n cofio fy mod i wedi’ch rhybuddio chi. Dw i ddim wedi dweud hyn wrthoch chi o’r dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi.
Gwaith yr Ysbryd Glân
5“Bellach dw i’n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi’n gofyn, ‘Ble rwyt ti’n mynd?’ 6Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi’n drist i gyd. 7Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi mod i’n mynd i ffwrdd. Os gwna i ddim mynd, fydd yr un sy’n sefyll gyda#16:7 sefyll gyda: gw. nodyn ar 14:16. chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i’n ei anfon atoch chi. 8Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau’r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir: 9o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi; 10o gyfiawnder am fy mod i’n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i o hyn ymlaen; 11ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn.
12“Mae gen i lawer mwy i’w ddweud wrthoch chi, ond mae’n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd. 13Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae’n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd. 14Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i’n ddweud a’i rannu gyda chi. 15Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i’n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i’n ddweud a’i rannu gyda chi.
Bydd tristwch y disgyblion yn troi’n llawenydd
16“Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.”
17Dyma’i ddisgyblion yn gofyn i’w gilydd, “Beth mae’n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto’? A beth mae ‘Am fy mod i’n mynd at y Tad’ yn ei olygu? 18Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”
19Roedd Iesu’n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Ydych chi’n trafod beth dw i’n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.’? 20Credwch chi fi, Byddwch chi’n galaru ac yn crio tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi’n llawenydd. 21Mae gwraig mewn poen pan mae’n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni – mae hi’n anghofio’r poen! 22Yr un fath gyda chi: Dych chi’n teimlo’n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i’n eich gweld chi eto a byddwch yn dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi. 23Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i’w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i’w wneud. 24Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi’n wirioneddol hapus!
25“Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae’r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i’n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad. 26Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i’r Tad ar eich rhan chi. 27Na, mae’r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i, ac am eich bod chi wedi credu fy mod wedi dod oddi wrth y Tad. 28Dw i wedi dod i’r byd oddi wrth y Tad, a dw i ar fin gadael y byd a mynd yn ôl at y Tad.”
29“Nawr rwyt ti’n siarad yn blaen!” meddai’r disgyblion. “Dim darluniau i’w dehongli. 30Dŷn ni’n gweld bellach dy fod di’n gwybod pob peth. Does dim rhaid i ti ofyn beth sydd ar feddwl rhywun hyd yn oed. Mae hynny’n ddigon i wneud i ni gredu dy fod di wedi dod oddi wrth Dduw.”
31“Dych chi’n credu ydych chi?” meddai Iesu. 32“Mae’r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi’n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi’n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi.
33“Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael profi’r heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro’r byd.”

Currently Selected:

Ioan 16: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy