YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 11

11
Marwolaeth Lasarus
1Roedd dyn o’r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a’i chwaer Martha. 2(Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda’i gwallt, a’i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) 3Dyma’r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di’n sâl.”
4Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”
5Roedd Iesu’n hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus. 6Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. 7Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
8“Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”
9Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy’n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau’r haul. 10Ond mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
11Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.”
12“Arglwydd,” meddai’r disgyblion, “os ydy e’n cysgu, bydd yn gwella.” 13Ond marwolaeth oedd Iesu’n ei olygu wrth ‘gwsg’. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. 14Felly dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw’n blaen, “Mae Lasarus wedi marw, 15ac er eich mwyn chi dw i’n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
16Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!”
Iesu’n cysuro’r chwiorydd
17Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod. 18Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem, 19ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd. 20Pan glywodd Martha fod Iesu’n dod, aeth allan i’w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ.
21“Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. 22Ond er hynny, dw i’n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti’n ei ofyn ganddo.”
23Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.”
24Atebodd Martha, “Dw i’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”#11:24 y dydd olaf: Pan fydd Duw yn barnu pawb.
25Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; 26a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?”
27“Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i’n credu mai ti ydy’r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i’r byd.”
28Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae’r Athro yma, ac mae’n gofyn amdanat ti.” 29Pan glywodd Mair hyn, dyma hi’n codi ar frys i fynd ato. 30(Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi’i gyfarfod.) 31Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi’n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw’n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi’n mynd at y bedd i alaru.
32Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a’i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”
33Wrth ei gweld hi’n wylofain yn uchel, a’r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. 34Gofynnodd, “Ble dych chi wedi’i gladdu?”
“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.
35Roedd Iesu yn ei ddagrau.
36“Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai’r bobl oedd yno.
37Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i’r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”
Iesu’n codi Lasarus
38Roedd Iesu’n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi’i gosod dros geg yr ogof.) 39“Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi’i gladdu ers pedwar diwrnod.”
40Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”
41Felly dyma nhw’n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. 42Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti’n gwrando arna i bob amser, ond dw i’n dweud hyn er mwyn y bobl sy’n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
43Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” 44A dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. Roedd ei freichiau a’i goesau wedi’u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb.
“Tynnwch nhw i ffwrdd a’i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.
Y cynllwyn i ladd Iesu
(Mathew 26:1-5; Marc 14:1-2; Luc 22:1,2)
45Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu. 46Ond aeth rhai at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi’i wneud. 47A dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o’r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae’r dyn yma’n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol. 48Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio’n teml a’n gwlad ni.”
49Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl! 50Onid ydy’n well i un person farw dros y bobl nag i’r genedl gyfan gael ei dinistrio?” 51(Wnaeth e ddim dweud hyn ohono’i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu’n marw dros y genedl. 52A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a’u gwneud nhw’n un.)
53O’r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw’n cynllwynio i ladd Iesu. 54Felly wnaeth Iesu ddim mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea ar ôl hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o’r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda’i ddisgyblion.
55Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i fynd drwy’r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun. 56Roedden nhw’n edrych am Iesu drwy’r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a holi ei gilydd, “Beth dych chi’n feddwl? Ddaw e ddim i’r Ŵyl, siawns!” 57(Roedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)

Currently Selected:

Ioan 11: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy