YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 25

25
Jerwsalem yn cael ei choncro
(2 Cronicl 36:13-21; Jeremeia 52:3b-11)
1Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â’i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o’r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin.#25:1 degfed diwrnod … brenin Yr union ddyddiad fyddai Ionawr 15, 588 cc. Dyma nhw’n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. 2Buon nhw’n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). 3Erbyn y nawfed diwrnod o’r pedwerydd mis#25:3 pedwerydd mis Yr union ddyddiad fyddai Gorffennaf 18, 586 cc. y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i’w fwyta. 4Dyma’r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o’r ddinas ganol nos drwy’r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw’n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.#25:4 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu’r ddinas.) 5Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma’i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 6Dyma nhw’n mynd â’r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. 7Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn, dyma nhw’n tynnu llygaid Sedeceia allan a’i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e’n gaeth i Babilon.
Y deml yn cael ei dinistrio
(Jeremeia 52:12-27)
8Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o’r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 9Dyma fe’n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a’r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 10Wedyn dyma fyddin Babilon, oedd gyda’r capten, yn bwrw’r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. 11A dyma Nebwsaradan yn mynd â’r bobl oedd wedi’u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 12Ond gadawodd rai o’r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.
13Wedyn, dyma’r Babiloniaid yn malu’r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a’r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’. A dyma nhw’n cario’r metel yn ôl i Babilon. 14Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 15Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a’r dysglau – popeth oedd wedi’i wneud o aur pur neu arian. 16Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a’r trolïau oedd Solomon wedi’u gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i’w bwyso. 17Roedd y pileri yn bron naw metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi’i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.
18Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 19Wedyn o’r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o’r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o’i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 20Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla, 21a dyma’r brenin yn eu curo nhw a’u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o’u tir.
Gedaleia yn rheoli Jwda
(Jeremeia 40:7-9; 41:1-3)
22Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi’u gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.
23Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a’u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli’r wlad, dyma nhw’n mynd i’w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda’u milwyr. 24A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.” 25Ond yna yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i’r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o’i ddynion a lladd Gedaleia a’r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e. 26Yna dyma’r boblogaeth i gyd (o’r ifancaf i’r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i’r Aifft am eu bod ofn beth fyddai’r Babiloniaid yn ei wneud.
Y brenin Jehoiachin yn y gaethglud
(Jeremeia 52:31-34)
27Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach#25:27 Efil-merodach Mab Nebwchadnesar oedd yn teyrnasu ar Babilon o 562 i 560 cc. yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o’r deuddegfed mis#25:27 deuddegfed mis Adar, sef deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth. y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar. 28Buodd yn garedig ato, a’i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o’r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 29Felly dyma Jehoiachin yn newid o’i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta’n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 30ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 25: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy