YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 24

24
Babilon yn ymosod ar Jwda
(2 Cronicl 36:6-8)
1Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar,#24:1 Nebwchadnesar Roedd yn teyrnasu ar Babilon o 605 i 562 cc. brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd.#24:1 am dair blynedd 604–601 cc mae’n debyg. Ond yna dyma fe’n gwrthryfela. 2Dyma’r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw’n dinistrio’r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei weision y proffwydi. 3Does dim amheuaeth mai’r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o’i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi’u gwneud. 4Roedd wedi lladd pobl ddiniwed, ac roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny.
5Mae gweddill hanes Jehoiacim, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 6Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. 7Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o’i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro’r holl diroedd roedd e’n arfer eu rheoli, o Wadi’r Aifft i afon Ewffrates.
Jehoiachin, brenin Jwda#Jeremeia 22:24-30
(2 Cronicl 36:9-10)
8Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem). 9Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o’i flaen.
10Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae#24:10 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. ar Jerwsalem. 11Tra oedden nhw’n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. 12A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda’i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.#24:12 wyth mlynedd Digwyddodd hyn i gyd yn 597 cc. 13Dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau’r deml i gyd hefyd, a thrysorau’r palas, a malu’r holl lestri aur roedd y Brenin Solomon wedi’u gwneud i’r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.#24:13 rhybuddio gw. 20:16-18. 14A dyma fe’n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a’r milwyr dewr, y crefftwyr a’r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.
15Aeth â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, gyda’i fam a’i wragedd, swyddogion y palas a phobl fawr y wlad i gyd. 16Aeth â’r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a’r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd. 17Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.
Sedeceia, brenin Jwda
(2 Cronicl 36:11-12; Jeremeia 52:1-3a)
18Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi’n frenin.#24:18 benodi’n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. Jeremeia 37:1). Bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna#24:18 Jeremeia o Libna Nid y proffwyd (gw. Jeremeia 1:1).). 19Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim. 20Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o’i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 24: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy