YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 1

1
O Adda i feibion Noa
(Genesis 5:1-32)
1Adda, Seth, Enosh, 2Cenan, Mahalal-el, Iered, 3Enoch, Methwsela, Lamech, 4Noa, Shem, Cham, a Jaffeth.
Disgynyddion Jaffeth
(Genesis 10:2-4)
5Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
6Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
7Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos.
Disgynyddion Cham
(Genesis 10:6-8,13-18)
8Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
9Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha.
Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
10Cafodd Cwsh fab arall o’r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear.
11Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, 12Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a’r Cafftoriaid.
13Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o’i fab hynaf), a’r Hethiaid, 14y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 15Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 16Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath.
Disgynyddion Shem
(Genesis 10:22-29; 11:10-26)
17Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.
Disgynyddion Aram#1:17 Dydy’r geiriau Meibion Aram ddim yn yr Hebraeg. Ond gw. Genesis 10:23. oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech.
18Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. 19Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw’n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu.#1:19 Hebraeg, palag. Enw ei frawd oedd Ioctan.
20Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, 21Hadoram, Wsal, Dicla, 22Obal, Abima-el, Sheba, 23Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
24Cangen arall o deulu Shem:#1:24 Cangen Sem Dydy’r geiriau yma ddim yn yr Hebraeg. Shem, drwy Arffacsad, Shelach, 25Eber, Peleg, Reu, 26Serwg, Nachor, Tera, 27i Abram (sef Abraham).
28Meibion Abraham: Isaac ac Ishmael. 29A dyma’u disgynyddion nhw:
Disgynyddion Ishmael
(Genesis 25:13-15)
Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam, 30Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema, 31Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael.
Disgynyddion Abraham drwy Cetwra
(Genesis 25:1-4)
32Meibion Cetwra, partner#1:32 partner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. Abraham: Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.
Meibion Iocsan: Sheba, a Dedan.
33Meibion Midian: Effa, Effer, Chanoch, Abida, ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.
Disgynyddion Isaac
34Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel.
Disgynyddion Esau
(Genesis 36:10-19)
35Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Iewsh, Ialam, a Cora.
36Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, a (drwy Timna) Amalec.
37Meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma, a Missa.
Disgynyddion Seir
(Genesis 36:20-30)
38Meibion Seir: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan.
39Meibion Lotan: Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.)
40Meibion Shofal: Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
Meibion Sibeon: Aia, ac Ana.
41Mab Ana: Dishon.
Meibion Dishon: Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
42Meibion Etser: Bilhan, Saafan, a Iacân.
Meibion Dishan: Us ac Aran.
Brenhinoedd Edom
(Genesis 36:31-43)
43Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.
44Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.
45Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.
46Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)
47Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.
48Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar afon Ewffrates ddaeth yn frenin.
49Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.
50Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab). 51Yna dyma Hadad yn marw.
Arweinwyr Llwythau Edom
A dyma enwau arweinwyr Edom: Timna, Alfa, Ietheth, 52Oholibama, Ela, Pinon, 53Cenas, Teman, Miftsar, 54Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom.

Currently Selected:

1 Cronicl 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy