Philipiaid 2
2
1Od oes gan hynny ddim apêl yng Nghrist, od oes dim cymhelliad cariad, od oes dim ymgyfranogi o’r Ysbryd, od oes dim tynerwch calon#2:1 Neu: trugareddau. a thosturiaethau, 2cwblhewch#2:2 Neu: cyflawnwch. fy llawenydd, fel y byddoch o’r un meddwl, a’r un cariad gennych, yn gytun, o un meddwl, 3heb wneuthur dim trwy ymbleidio neu trwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, pawb yn cyfrif eraill yn amgenach na hwy eu hunain, 4heb edrych o neb ar yr eiddo’i hun, eithr ar yr eiddo eraill hefyd. 5Bydded ynoch y meddwl yma a oedd hefyd yng Nghrist Iesu, 6yr hwn ac yntau yn ffurf Duw ni chyfrifodd yn beth diollwng#2:6 Neu: yn beth i’w gipio. fod yn ogyfuwch â Duw, 7ond a’i gwacaodd ei hun, gan gymryd arno ffurf gwas,#2:7 Neu: caethwas. 8o’i wneuthur ar lun dynion: ac o’i gaffael yn null dyn ef a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r groes. 9Oherwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, a rhoddi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, 10fel yn enw’r Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, 11ac y llwyr-gyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
12Felly f’anwyliaid,#2:12 Neu: fy ngharedigion. megis y buoch bob amser yn ufudd, nid fel pe yn fy mhresenoldeb yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn f’absenoldeb, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain gydag ofn a dychryn; 13canys Duw yw’r hwn sy’n gweithio ynoch yn ogystal ewyllysio a gweithio i’w fodlonrwydd ef. 14Gwnewch bopeth heb rwgnach ac ymddadleu, 15fel y byddoch ddifeius a diddrwg, yn blant Duw, dinam#2:15 Neu: yn blant dinam i Dduw. ynghanol cenhedlaeth wyrgam a throfaus, a chwithau yn eu plith i’ch gweled megis goleuadau yn y byd, 16gan ddal allan air y bywyd, er ymffrost i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer ac nad ymboenais yn ofer. 17Ie, ac od ydys yn f’offrymu ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf a chyd-lawenhau â chwi oll; 18a’r un modd byddwch chwithau hefyd lawen a chyd-lawenhewch â minnau.
19Eithr gobeithio’r wyf yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, fel y’m cysurer innau hefyd o wybod eich helynt chwi. 20Canys nid oes gennyf neb o’r un ysbryd#2:20 Neu: anian. ag ef, a wir-ofala#2:20 Neu: wir-brydera. am eich cyflwr chwi; 21canys ceisio y maent hwy oll yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Crist Iesu. 22Eithr gwyddoch fel y profwyd ef, iddo fel mab gyda thad gyd-wasanaethu â mi ar ran yr efengyl. 23Dyma’r gŵr, gan hynny, yr wyf yn gobeithio ei anfon yn ddioed cyn gynted ag y gwelwyf pa fodd y bydd hi gyda mi; 24a theimlaf yn sicr yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder. 25Eithr tybiais y dylwn#2:25 Neu: fod angen. anfon atoch Epaphroditus fy mrawd a’m cyd-weithiwr a’m cyd-filwr, a’ch cennad chwi a’ch gweinidog i’m cyfreidiau#2:25 Neu: anghenion. i, 26gan ei fod yn hiraethus amdanoch oll ac yn ymofidio oblegid i chwi glywed ei fod yn glaf: 27canys claf a fu a bron marw; ond trugarhaodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd fel na chawn dristwch ar dristwch. 28Bum felly’n fwy dyfal i’w anfon#2:28 Neu: Anfonais ef felly’n fwy dyfal., fel y byddech lawen, drachefn o’i weled a minnau’n llai fy nhristwch. 29Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, ac ystyriwch y cyfryw’n deilwng o anrhydedd, 30canys er mwyn gwaith Crist bu agos iddo farw trwy beryglu ei fywyd i gyflenwi diffyg eich gwasanaeth tuagataf.
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945