YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
1Rhestr achau Iesu Grist fab Dafydd fab Abraham:
2I Abraham y ganed Isaac; i Isaac y ganed Iacob; i Iacob y ganed Iwdas a’i frodyr; 3i Iwdas y ganed Phares a Sara o Thamar; i Phares y ganed Esrom; i Esrom y ganed Aram; 4i Aram y ganed Aminadab; i Aminadab y ganed Naasson; i Naasson y ganed Salmon; 5i Salmon y ganed Böes o Rachab; i Böes y ganed Iobed o Rwth; i Iobed y ganed Iessai; 6i Iessai y ganed Dafydd frenin. Ac i Ddafydd y ganed Solomon o wraig Wrïas; 7i Solomon y ganed Roboam; i Roboam y ganed Abia; 8i Abia y ganed Asaff; i Asaff y ganed Iosaffat; i Iosaffat y ganed Ioram; 9i Ioram y ganed Osïas; i Osïas y ganed Ioatham; i Ioatham y ganed Achas; i Achas y ganed Esecïas; 10i Esecïas y ganed Manasses; i Manasses y ganed Amos; i Amos y ganed Iosïas; 11i Iosïas y ganed Iechonïas a’i frodyr yn amser y gaethglud i Fabilon. 12Ac wedi’r gaethglud i Fabilon, i Iechonïas y ganed Salathiel; 13i Salathiel y ganed Sorobabel; i Sorobabel y ganed Abiwd; i Abiwd y ganed Eliacîm; i Eliacîm y ganed Asor; 14i Asor y ganed Sadoc; i Sadoc y ganed Achîm; i Achîm y ganed Eliwd; 15i Eliwd y ganed Eleasar; i Eleasar y ganed Mathan; Mathan y ganed Iacob; 16i Iacob y ganed Ioseff gŵr Mair, y ganed ohoni Iesu a elwir Crist.
17Yr holl genedlaethau, felly, o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon pedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18Genedigaeth Iesu Grist, fel hyn y bu: dyweddïwyd ei fam ef, Mair, i Ioseff, ond cyn iddynt ddyfod ynghyd cafwyd hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. 19A chan fod Ioseff, ei gŵr hi, yn gyfiawn, ac eto heb chwennych gwneud esiampl ohoni, fe benderfynodd ei hysgar yn ddirgel. 20Ac wedi i hyn ddod i’w feddwl, dyna angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos iddo gan ddywedyd, “Ioseff, fab Dafydd, nac ofna gymryd atat Fair dy wraig; canys yr hyn a, genhedlwyd ynddi, o’r Ysbryd Glân y mae. 21A hi esgor ar fab, a gelwi ei enw ef Iesu; canys ef a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.” 22Hyn oll a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd drwy’r proffwyd,
23 Wele, y forwyn a fydd feichiog ac a esgor ar fab,
A galwant ei enw ef Emmanwel,
hynny yw o’i gyfieithu, Duw gyda ni. 24A phan ddeffroes Ioseff o’i gwsg, fe wnaeth fel y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, a chymerth ei wraig ato; 25eto nid adnabu ef hi hyd onid esgorodd ar fab; a galwodd ei enw ef Iesu.

Currently Selected:

Mathew 1: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy