Skip to content

Effesiaid 2

2
1A chwithau’n feirw gan eich camweddau a’ch pechodau 2y rhai y rhodiasoch ynddynt gynt yn null yr oes a’r byd, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr yn egni ym meibion yr anufudd-dod, — 3ac yn eu mysg y bu gynt ein buchedd ninnau oll yn chwantau ein cnawd, yn gwneuthur ewyllysiau ein cnawd a’n bryd,#2:3 Lluosog yn y Groeg. ac yr oeddem yn blant digofaint wrth natur fel y rhelyw hefyd, — 4ond Duw yn ei gyfoeth o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad a roes arnom, a’n cydfywhaodd ni gyda’r Crist, 5a ninnau’n feirw gan gamweddau — o ras yr ydych wedi eich cadw, — ac a’n cydgyfododd ac a’n 6gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu, 7er mwyn dangos yn yr oesoedd a ddaw dra-chyfoeth ei ras drwy ei diriondeb tuag atom ni yng Nghrist Iesu; 8canys o ras yr ydych wedi eich cadw drwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain, ond rhodd Duw ydyw, 9nid o weithredoedd rhag i neb ymffrostio. 10Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu ar gyfer gweithredoedd da a ragbaratôdd Duw i ni i rodio ynddynt.
11Gan hynny, cofiwch eich bod chwi gynt — y cenhedloedd yn y cnawd, a elwir yn ddienwaediad gan y rhai a elwir yn enwaediad, (gwaith llaw ar y cnawd oedd hynny), 12eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, yn ddi-fraint yng ngwladwriaeth yr Israel, ac yn estroniaid i gyfamodau yr addewid, heb obaith gennych a heb Dduw yn y byd. 13Ond yn awr yng Nghrist Iesu yr ydych chwithau, a oedd gynt ymhell, wedi dyfod yn agos trwy waed Crist. 14Canys ef yw ein heddwch ni, a wnaeth y ddau beth yn un ac a chwalodd ganolfur y gwahaniad, sef yr elyniaeth, 15ac a ddirymodd yn ei gnawd gyfraith y gorchmynion [a oedd] mewn ordeiniadau, er mwyn creu’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd gan wneuthur heddwch, 16a chymodi’r ddwyblaid yn un corff â Duw drwy’r groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi. 17Ac fe ddaeth a chyhoeddodd heddwch i chwi y rhai pell a heddwch i’r rhai agos, 18canys trwyddo ef y mae gennym ein dau fynediad mewn un ysbryd at y Tad. 19Am hynny, nid dieithriaid a dyfodiaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion ydych â’r saint a theulu Duw, 20wedi eich adeiladu ar garreg sylfaen yr apostolion a’r proffwydi, a Christ Iesu ei hunan yn ben conglfaen. 21Ynddo ef y mae pob adeilad yn cael ei gydasio ac yn tyfu yn deml santaidd yn yr Arglwydd; 22ynddo ef hefyd y’ch cydadeiledir chwithau yn gartref i Dduw yn yr ysbryd.