Skip to content

2 Thesaloniaid 3

3
1Yn ddiwethaf, gweddïwch, frodyr, drosom ni, ar i air yr Arglwydd fyned rhagddo a chael ei fawrygu, megis gyda chwi, 2ac ar i ninnau gael ein gwaredu rhag dynion gwrthnysig a drwg; canys nid yw’r ffydd gan bawb. 3Ond ffyddlon yw yr Arglwydd: Ef a’ch cadarnha chwi ac a’ch amddiffyn rhag yr Un drwg. 4Y mae gennym hyder ynoch yn yr Arglwydd, eich bod yn gwneuthur a orchmynnwn, ac y gwnewch. 5A chyfeiried yr Arglwydd eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist.
6Ond gorchmynnwn i chwi, frodyr, yn enw’r Arglwydd Iesu Grist, ymgadw oddi wrth bob brawd sy’n byw’n segur yn lle dilyn y rheol a dderbyniasoch gennym ni. 7Chwi a wyddoch y dylech ein hefelychu ni: canys ni buom segur yn eich mysg. 8Ni fwytasom fara neb heb ei ennill, eithr gweithio nos a dydd mewn diwydrwydd a lludded, rhag pwyso ar neb ohonoch. 9Nid am nad oes gennym hawl, ond i roddi esiampl i chwi i’n hefelychu. 10Yn wir, pan oeddem gyda chwi rhoesom i chwi y gorchymyn “Y neb na fynno weithio, na fwytaed chwaith.” 11Canys clywn fod rhai yn eich plith yn byw’n segur heb weithio dim, ond busnesa. 12Gorchmynnwn a chymhellwn y cyfryw yn yr Arglwydd Iesu Grist i weithio’n dawel ac ennill eu bywoliaeth. 13Ond chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur da. 14Ac os gwrthyd neb ufuddhau i’n geiriau yn y llythyr, nodwch hwnnw; na chymdeitheswch ag ef, fel y cywilyddio. 15Ac eto, nac ystyriwch ef fel gelyn ofid rhybuddiwch ef fel brawd. 16Arglwydd y tangnefedd Ei Hun a roddo i chwi Ei dangnefedd bob amser ym mhob rhyw fodd. Yr Arglwydd a fo gyda chwi oll.
17Y mae’r annerch yn fy llaw fy hun, Pawl. Dyma arwydd ym mhob llythyr; dyma fy ysgrifen: 18Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi oll.