2 Thesaloniaid 1
1
1Pawl a Silfan a Thimotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. 2Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3Dylem, frodyr, ddiolch yn wastadol i Dduw amdanoch, fel y mae yn gweddu inni, oherwydd dirfawr gynnydd eich ffydd a bod cariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn ymhelaethu, 4fel yr ymffrostiwn ninnau ynoch yn eglwysi Duw am eich amynedd a’ch ffydd yn eich holl erledigaethau a’r blinderau a ddioddefwch. 5Prawf ydynt o farn gyfiawn Duw i’ch gwneuthur chwi’n deilwng o deyrnas Dduw, y dioddefwch er ei mwyn; yn gymaint 6â’i bod yn gyfiawn gan Dduw ad-dalu blinder i’r rhai a’ch blina chwi, 7a gollyngdod i chwithau, a flinir ynghyda ninnau, yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gydag angylion Ei nerth, 8mewn tân fflam, i ddial ar y rhai nad adwaenant Dduw ac nad ufuddhânt i efengyl ein Harglwydd Iesu. 9Eu cosb fydd dinistr bythol allan o wyddfod yr Arglwydd ac o ogoniant Ei nerth Ef 10pan ddêl i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn y rhai oll a gredodd, oblegid credwyd ein tystiolaeth i chwi, yn y dydd hwnnw. 11Er mwyn hyn y gweddïwn hefyd yn wastadol drosoch, ar i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng o’i alwad a chyflawni trwy Ei nerth bob awyddfryd daionus a gwaith ffydd ynoch, 12fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945