Skip to content

1 Thesaloniaid 2

2
1Canys gwyddoch eich hunain, frodyr, na fu ein hymweliad ni â chwi yn ofer; 2eithr er dioddef ohonom o’r blaen a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ymwrolasom yn ein Duw i draethu i chwi efengyl Duw yng nghanol ymdrech fawr. 3Canys nid yw ein hapêl ni o gyfeiliornad nac o amhurdeb na thrwy ddichell; 4eithr, fel rhai a gymeradwywyd gan Dduw i ymddiried iddynt am yr efengyl, felly y llefarwn, nid i foddio dynion, ond y Duw a brawf ein calonnau. 5Canys ni chaed ni un amser a chennym ymadrodd gweniaith, fel y gwyddoch, na than gochl hunan-gais — Duw yn dyst; 6ac ni cheisiasom glod gan ddynion, na chennych chwi na chan arall, er y gallem wasgu arnoch fel apostolion Crist; 7eithr buom dyner yn eich mysg fel mamaeth yn maethu ei phlant ei hun: 8felly y dymunem, gan gymaint ein serch tuag atoch, gyfrannu i chwi nid yn unig efengyl Duw, eithr hyd yn oed ein bywyd, oblegid daethoch yn annwyl gennym. 9Canys cof gennych, frodyr, am ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd rhag pwyso ohonom ar neb ohonoch, pregethasom i chwi efengyl Duw. 10Tystion ydych chwi a Duw mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag atoch chwi sy’n credu, 11a’r modd, fel y gwyddoch, y buom i chwi bob un ohonoch fel tad i’w blant ei hun, 12yn eich annog a’ch calonogi a’ch tynghedu i rodio’n deilwng o’r Duw a’ch galwodd i’w deyrnas Ei Hun a’i ogoniant.
13Am hyn, hefyd, diolchwn yn ddibaid i Dduw am i chwi, pan dderbyniasoch air cenadwri Duw oddi wrthym ni, ei dderbyn, nid fel gair dynion, eithr — yr hyn yw yn ddilys — fel gair Duw a weithia yn effeithiol ynoch chwi y credinwyr. 14Canys aethoch chwi, frodyr, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Iwdea; oblegid dioddefasoch chwithau hefyd ar law eich cyd-genedl yn yr un modd â hwythau ar law yr Iddewon, 15a laddodd yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi, ac a’n herlidiodd ninnau; y rhai sydd yn digio Duw a gwrthwynebu pob dyn, 16trwy warafun inni bregethu i’r cenhedloedd i’w hachub; nes cyflawni ohonynt yn wastadol fesur eu pechodau. Eithr y digofaint a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. 17A ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddi wrthych dros ennyd awr, o ran golwg ac nid o ran calon, a fuom mewn hiraeth mawr yn taer ddymuno gweled eich wyneb. 18Am hynny chwenychasom ddyfod atoch — myfi Pawl unwaith a dwywaith — ond Satan a’n rhwystrodd. 19Canys beth yw ein gobaith, ein llawenydd, a choron ein hymffrost — beth onid chwychwi? — gerbron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad; Yn wir, chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd.