YouVersion Logo
Search Icon

Ruth 4

4
1Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd. 2Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant. 3Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab. 4A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf. 5Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
6A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy etifeddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau. 7A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel. 8Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
9A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi. 10Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw. 11A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr Arglwydd a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dŷ di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem: 12Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddûg Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr Arglwydd i ti o’r llances hon.
13Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab. 14A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. 15Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. 16A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. 17A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
18Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron, 19A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab, 20Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedlodd Salmon, 21A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed, 22Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.

Currently Selected:

Ruth 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy