YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 2

2
1Pan offrymo dyn fwyd-offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno. 2A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 3A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4Hefyd pan offrymech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5Ond os bwyd-offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew. 6Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd-offrwm yw.
7Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew. 8A dwg i’r Arglwydd y bwyd-offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor. 9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 10A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw. 11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
12Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd. 13Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti. 14Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd-offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf. 15A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd-offrwm yw. 16A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.

Currently Selected:

Lefiticus 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy