YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 3

3
1Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon: 2Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef. 3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. 4Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? 5Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. 6Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. 7Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. 8Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd. 9Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? 10Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? 11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. 12Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? 13Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; 15Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
16Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. 17Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. 19A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. 20Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. 21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22Wedi’r pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.
23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a’u bedyddiwyd: 24Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.
25Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon, ynghylch puredigaeth. 26A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef. 27Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef. 28Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw’r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef. 29Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw’r priodfab: ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd. 30Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau. 31Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. 32A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. 33Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw. 34Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. 35Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. 36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Currently Selected:

Ioan 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy