YouVersion Logo
Search Icon

Colosiaid 2

2
1Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; 2Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; 3Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. 4A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. 5Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. 6Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; 7Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. 8Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. 9Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. 16Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21(Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.

Currently Selected:

Colosiaid 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy