YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 1

1
1Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: 2A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. 3A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno.
4Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. 5Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi; 6A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r Arglwydd gau ei bru hi. 7Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. 8Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?
9Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.) 10Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd. 11Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. 12A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. 13A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. 14Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. 15A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd. 16Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. 17Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. 18A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.
19A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi. 20A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi. 21A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol, a’i adduned. 22Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth. 23Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc. 25A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli. 26A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd. 27Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo: 28Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.

Currently Selected:

1 Samuel 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy