YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 3

3
1A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. 2A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; 3A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: 4Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. 5Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. 6A’r Arglwydd a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. 7Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto. 8A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen. 9Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. 10A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. 12Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith. 13Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. 14Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.
15A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli. 16Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 17Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt. 18A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
19A chynyddodd Samuel; a’r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. 20A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel. 21A’r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd.

Currently Selected:

1 Samuel 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy