YouVersion Logo
Search Icon

1 Brenhinoedd 3

3
1A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr Arglwydd, a mur Jerwsalem oddi amgylch. 2Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr Arglwydd, hyd y dyddiau hynny. 3A Solomon a garodd yr Arglwydd, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu. 4A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno.
5Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti. 6A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw. 7Ac yn awr, O Arglwydd fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn. 8A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd. 9Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn? 10A’r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Solomon y peth hyn. 11A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn: 12Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl. 13A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. 14Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di. 15A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.
16Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef. 17A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi. 18Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ. 19A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef. 20A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau. 21A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe. 22A’r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin. 23Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw. 24A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin. 25A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall. 26Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef. 27Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef. 28A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

Currently Selected:

1 Brenhinoedd 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy