Titus 2
2
1Ond tydi, llefara’r pethau a weddant i’r athrawiaeth iachus; 2i hynaf-gwyr fod yn gymmedrol, yn ddifrifol, yn sobr eu meddwl, yn iach yn y ffydd, yn eu cariad, yn eu hamynedd; 3i’r hynaf-wragedd, yr un ffunud, fod mewn ymddygiad yn hybarch, nid yn enllibaidd, nac wedi eu caethiwo i win lawer, 4yn dysgu’r hyn sydd dda, fel y sobront feddyliau y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant; 5i fod yn sobr eu meddyliau, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ymddarostwng i’w gwŷr, fel na bo i Air Duw ei gablu. 6Y gwŷr ieuaingc, yr un ffunud, 7cynghora i fod yn sobr eu meddyliau: ym mhob peth yn dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da; yn dy ddysgad yn dangos anllygredigaeth, 8difrifoldeb, ymadrodd iach na ellir ei gondemnio, fel y bo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim sydd ddrwg i’w ddywedyd am danom. 9Gweision cynghora i ymddarostwng i’w meistriaid; ym mhob peth i ryngu bodd iddynt, 10nid yn gwrth-ddywedyd, nid yn darn-guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel athrawiaeth Dduw ein Hiachawdwr yr addurnont ym mhob peth; 11canys ymddangosodd gras Duw, yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, 12yn ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a’r chwantau bydol, y bo i ni fyw â meddyliau sobr, ac yn gyfiawn, 13ac yn dduwiol yn y byd y sydd yn awr, gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac am ymddangosiad gogoniant y Duw mawr a’n Hiachawdwr Iesu Grist, 14yr Hwn a’i rhoddes Ei hun trosom, fel y prynai ni oddiwrth bob anghyfraith, ac y’n purai Iddo Ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na fydded i neb dy ddirmygu di.
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.