Skip to content

Diarhebion 9

9
IX.
1Doethineb a adeiladodd ei thŷ,
Naddodd ei cholofnau, saith (o honynt);
2Lladdodd ei hanifeiliaid, cymmysgodd ei gwin,
Gosododd allan ei bwrdd;
3Gyrrodd ei llangcesau, (a) chyhoeddodd
Ar fannau uchel y ddinas,
4“Pwy bynnag (sydd) syml, tröed efe yma
A’r diffygiol o feddwl, hi a ddywaid wrtho,
5Deuwch, bwyttêwch o ’m bara,
Ac yfwch o ’r gwin a gymmysgais;
6Ymadewch â symledd a byddwch fyw,
A cherddwch yn ffordd deall;
7A#9:7 y rheswm nad yw Doethineb yn gwahodd y rhai hyn ynghyda’r rhai syml. geryddo watwarwr a gaiff iddo ei hun waradwydd,
Ac a argyhoeddo ’r drygionus (a gaiff) ystaen iddo;
8Nac argyhoedda watwarwr rhag cashâu o honaw dydi,
Argyhoedda ’r doeth, ac efe a’th gâr;
9Dyro i ’r doeth, ac efe a â etto ’n ddoethach,
Cyfarwydda ’r cyfiawn, ac efe a chwannega ddysgeidiaeth:
10Dechreuad doethineb (yw) ofn Iehofah,
A gwybodaeth o ’r Sanctaidd (sydd) ddeall;
11Canys trwof fi yr amlhêir dy ddyddiau,
Ac y chwanegir i ti flynyddoedd bywyd:
12Os doeth fyddi, doeth fyddi#9:12 iddo ef ei hun y bydd y canlyniadau. i ti dy hun,
Ac (os) gwatwarwr fyddi, tydi yn unig a ddioddefi.
13Y#9:13 annoethineb. wraig annoeth (sydd) drystfawr,
Yn wirion, ac ni ŵyr ddim;
14Ac eistedda wrth ddrws ei thŷ,
Ar orseddfaingc (yn) uchel fannau ’r ddinas,
15I wahodd y sawl sy’n tramwyo ’r ffordd,
Y rhai sy ’n iawn-gyfarwyddo eu llwybrau, (gan ddywedyd)
16Pwy#9:16 gwel ad: 4. bynnag (sydd) syml, tröed efe yma;”
A’r diffygiol o feddwl, hi a ddywaid wrtho,
17“Dyfroedd#9:17 cydmerwch ad: 5. lladradaidd sydd felus,
A bara cudd sydd beraidd,”
18Ond ni ŵyr efe mai gwyllion (sydd) yno,
Ac yn nyfnderau annwn fod ei gwahoddedigion hi.