Skip to content

Diarhebion 30

30
XXX.
1Geiriau Agwr, mab Iaceh.
Yr ymadrodd.
Llefarodd y gwr wrth Ithiel,
Wrth Ithiel ac Wcal.
2Yn ddiau mwy ysgrublaidd (wyf) fi na neb,
Ac nid (oes) deall dyn gennyf;
3Ac ni ddysgais ddoethineb,
A gwybodaeth am Y Sanctaidd ni feddiannaf.
4Pwy a esgynodd i’r nefoedd, ac a ddisgynodd?
Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau?
Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn?
Pwy a osododd holl derfynau ’r ddaear?
Pa beth (yw) ei enw ef? a pha beth (yw) enw ei fab?
Os #30:4 sef, dywaid.gwyddost—
5Holl ymadroddion Duw (sydd) #30:5 fel arian.buredig,
Tarian (yw) Efe i’r sawl a ymnoddant Ynddo:
6Na chwanega at Ei eiriau Ef,
Rhag Iddo dy gospi, ac y’th gaffer yn gelwyddog.
7Dau beth a ofynais Gennyt,
—Na ommedd (hwynt) i mi nes y trengwyf!—
8 # 30:8 y cyntaf. Celwydd a gair gau pellhâ oddi wrthyf!
# 30:8 yr ail. Tlodi neu gyfoeth na ddyro i mi,
Bwyda fi â bara cymmesurol i mi!
9Fel na’m gorddigoner a gwadu o honof (Dydi)
A dywedyd “Pwy (yw) Iehofah?”
Na thlodi o honof a lladratta
Ac #30:9 sef, trwy anudoniaeth.halogi enw fy Nuw!
10Na phar i was enllibio ei feistr,
Rhag iddo dy #30:10 sef, pan y cosper ef am hyny.felldithio, a dwyn o honot gosp.
11(Y mae) cenhedlaeth a felldithia ei thad,
A’i mam ni fendithia.
12(Y mae) cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun,
Ond oddi wrth ei haflendid ni olchwyd hi.
13(Y mae) cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid,
A’i hamrantau mor ddyrchafedig!
14(Y mae) cenhedlaeth, a chleddyfau (yw) ei dannedd,
A chyllyll (yw) ei brathwyr,
I ddifa ’r trueiniaid oddi ar y ddaear,
A’r digymmorth rai o blith dynion.
15I’r #30:15 Gwaedsugnyddes. Heb: “Alwca.” Anhawdd dweyd pa beth yw ’r Alwca hon. Llawer a ddywedant mai math ar anghenfil ffugiol yw, nid annhebyg i’r fampiriaid, am y rhai y chwedleuent flynyddoedd yn ol yr aent o amgylch liw nos, ac yr ymaflent ar bobl yn cysgu, ac y sugnent eu gwaed.waedsugnyddes (y mae) dwy ferch,—#30:15 hyn yw eu llefain beunydd. “Dyro, Dyro,”
Tair (ydynt) hwy a’r na orddigonir,
(Ië) pedwar peth ni ddywedant “Digon,”—
16Annwn—y groth a gauwyd arni,—
Y ddaear a’r na orddigonir â dyfroedd,
A’r tân a’r na ddywaid “Digon.”
17Y llygad a watwaro dad,
Ac a ddiystyro ufuddhau i fam,
Ei bigo allan a wna cigfrain y dyffryn,
A’i fwytta a wna cywion yr eryr.
18Tri pheth sydd rhy ryfeddol i mi,
A phedwar,—nid wyf yn eu #30:18 sef, pa fodd y digwyddant.gwybod,—
19Ffordd yr #30:19 â ’i gorph mawr.eryr yn y nefoedd,
Ffordd #30:19 a hithau heb draed ganddi.sarph ar y graig,
Ffordd #30:19 er ei maint a’i llwyth.llong ynghanol y môr,
# 30:19 Rhai a ddywedant, y cyfeirir at y diffyg olion sydd i’r pedwar peth hyn. A ffordd y #30:19 ac yntau a gwraig ganddo.gwreigiog mewn morwyn:
20 # 30:20 anhawdd deall pa sut y medr hi arferu ’r fath ddifatterwch. Felly ffordd gwraig odinebus,
A’r a fwytty ac a sych ei safn,
Ac a ddywaid “Ni wneuthum anwiredd.”
21Tan dri #30:21 megis ped fai yn faich.pheth y cryn y ddaear,
A than bedwar, ni eill hi (eu) dwyn,—
22Tan gaethwas, pan lywodraetho,
A (than) yr ynfyd, pan #30:22 wedi myned yn oludog.orddigoner ef â lluniaeth,
23Tan y gasedig, pan brioder hi,
A (than) gaethforwyn, pan elo yn etifeddes i’w meistres.
24Pedwar peth sydd o leiaf rai y ddaear,
Ond etto doethion doethedig ydynt,—
25Y morgrug, pobl nid nerthol,
Etto yn yr haf y darparant eu lluniaeth;
26Y #Gwel Psalm 104:18.cwningod, pobl nid grymmus,
Etto yn y graig y gosodant eu tai;
27Brenhin nid oes i’r locustiaid,
Etto yr ânt allan yn rhestredig;
28Y #30:28 math o honynt a’r sy’n trigo mewn muriau ac adfeiliau.geneu goeg, â’i ddwylaw y cymner efe #30:28 sef, ar ei ymborth.afael,
Etto y mae efe mewn llysoedd brenhinaidd.
29Tri pheth sydd ardderchog eu camrau,
Ië, pedwar yn ardderchog eu cerdded,—
30Y llew, y gwron ymhlith anifeiliaid,
Yr hwn ni thry rhag gwyneb neb,—
31Y milgi main ei lwynau,—neu ’r bwch,—
A brenhin nad oes sefyll yn ei erbyn.
32Os gwnaethost yn ynfyd gan ymddyrchafu,
Neu os meddyliaist ddrwg,—(boed dy) law ar (dy) enau;
33— Canys gwasgu llaeth a ddwg allan gaws,
A gwasgu ’r trwyn a ddwg allan waed,
A #30:33 sef, allan o ddyn arall trwy siarad, fel gwasgu sudd allan o ryw beth.gwasgu llid—a ddwg allan gynhen.