Diarhebion 26
26
XXVI.
1Fel eira yn yr haf, ac fel gwlaw yn y cynhauaf,
Felly nid gweddus i’r ynfyd anrhydedd.
2Fel aderyn y tô yn crwydro fel gwennol yn ehedeg,
Felly melldith ddïachos ni #26:2 ond eheda i ffwrdd.ddaw.
3Ffrewyll i’r march, ffrwyn i’r asyn,
A gwialen i gefn yr ynfydion.
4Nac atteb yr ynfyd yn ol ei ffolineb,
Fel na’th gystadler dithau hefyd âg ef.
5Atteb yr ynfyd yn ol ei ffolineb,
Rhag myned o hono yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6 # 26:6 metha fyned rhagddo. Tyr ymaith ei draed ei hun, a thrais a ŷf
A #26:6 h. y. a ymddiriedo iddo am ryw fatterion pwysfawr.ddanfono fatterion trwy law’r ynfyd.
7Honcia esgeiriau ’r cloff,
A #26:7 anweddus yw, fel hwythau.dïareb yngenau ’r ynfydion.
8Fel a #26:8 nid dyna ’r ffordd iawn i’w gosod.rwymo garreg mewn tafl,
Felly a roddo i’r ynfyd anrhydedd.
9Draenen a dderchafwyd yn llaw ’r #26:9 geill efe gamarferu y fath offeryn.meddw,
A dïareb yngenau ’r ynfydion.
10 # 26:10 direswn yw ’r tri. Saethwr a archollo bawb,
Ac a gyflogo ’r ynfyd, ac a gyflogo ’r #26:10 yn lle pigo allan y rhai da.tramwywyr heibio.
11Fel ci yn dychwelyd at ei chwydfa
(Y mae)’r ynfyd, yn adwneuthur yn ei ffolineb.
12A welaist ti un doeth yn ei olwg ei hun?
(Y mae) gobaith am yr ynfyd, rhagor am dano ef.
13Dywaid y swrth “Rhuedydd yn y ffordd!
Llew yn yr #Gwel 22:13.ehangleoedd!”
14Y drws a dry ar ei golyn,
A ’r swrth ar ei wely.
15 # Gwel 19:24. Cudd y swrth ei law yn y ddysgl,
Rhy flin yw i’ w dychwel at ei enau.
16Doethach (yw)’r swrth yn ei olwg ei hun,
Na #26:16 h. y. llawer.seithwyr a roddant atteb synhwyrol.
17Ymafael ynghlustiau ci (y mae)
Tramwywr yn ymddigio am gynhen nid yr eiddo ef
18Fel cynddeiriogyn yn taflu pentewynion,
Saethau, ac angau,
19Felly y gwr a dwyllodd ei gymmydog,
Ac a ddywaid, “Onid cellwair (yr oeddwn) i?”
20Yn niffyg coed y diffydd tân,
A lle nad oes hustyngwr, y gostega cynhen.
21Glo i ’r marwor, a choed i ’r tân,
A dyn cynhennus—i ennynu dadl.
22Geiriau ’r hustyngwr (sydd) megis cellweiriawl,
Ond hwynt-hwy a ddisgynant i #Gwel 18:8.stafelloedd y bol.
23 # 26:23 diwerth ŷnt i gyd. Arian sothachlyd wedi ei wisgo am briddlestr,
Felly #26:23 sef, wrth annerch â chusan.gwefusau gwresog a chalon ddrwg.
24A ’i wefusau yr ymffuanta cashâwr,
Ond tu mewn iddo ei hun y dyd efe dwyll;
25Er tirioni o hono ei lais, na chred ef,
Canys saith ffieidd-dra (sydd) yn ei galon.
26Cuddir casineb trwy dwyll,
(Ond) datguddir ei ddrygioni yn y gynnulleidfa.
27A gloddio bydew, ynddo y syrth,
Ac a #26:27 sef, i fynu, fel y bo iddi ymdreiglo i lawr ar ereill.dreiglo garreg, arno ef y dychwel hi.
28Tafod gau a gashâ ei #26:28 sef, trwy ei ddatguddio.faluriwr,
A genau llyfn a ddarpar ddymchweliad.
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.