Diarhebion 22
22
XXII.
1Mwy dymunol (yw) enw da na chyfoeth lawer,
Rhagor arian, a rhagor aur (y mae) ffafr yn dda.
2Y goludog a ’r tlawd a #22:2 h. y. rhaid iddynt fyw ynghŷd yn y byd hwn.gydgyfarfyddant,
Eu gwneuthurwr hwynt oll (yw) Iehofah.
3Y call a wel #22:3 sef, yn dyfod.ddrwg ac a ymgudd,
Ond yr ehud rai a ânt rhagddynt ac a gospir.
4Canlyniad gostyngeiddrwydd (ac) ofn Iehofah
(Yw) golud ac anrhydedd a bywyd.
5Drain (a) maglau (sydd) ar ffordd y gŵyrdröawg,
A ddalio ar ei enaid, pell fydd oddi wrthynt.
6Cyfarwydda fachgen yn ol ei oesdaith,
Hefyd pan heneiddio ni chilia oddi #22:6 y fath gyfarwyddiad.wrtho.
7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd,
A chaethwas (yw) ’r echwyn-geisiwr i ’r gwr a roes echwyn.
8A hauo anwiredd a fed wagedd,
Ac am #22:8 â ’r hon y curai efe.wialen ei lid y derfydd.
9Y #22:9 y gwrthwyneb i ’r llygad drwg yn 23:6, a Mat. 20:15.da ei lygad, hwnnw a fendithir,
Am roddi o hono o ’i fara i ’r anghenus.
10Gyrr ymaith watwarwr, ac allan yr â cynhen,
A derfydd ymryson a gwarth.
11A garo lendid calon,
Gras (yw) ei wefusau, ei gyfaill (yw) ’r brenhin.
12Llygaid Iehofah a gadwant #22:12 h. y. perch-enydd ofn Iehofah; gwel 1:7.wybodaeth,
Ond dadymchwel Efe eiriau ’r twyllodrus.
13Medd y swrth, “Llew yn yr heol!
Ynghanol yr #22:13 lle y cynhelid y farchnad, &c.ëangleoedd y ’m lleddir!”
14Pydew dwfn (yw) genau #22:14 h. y. gwragedd dynion eraill.estronesau,
Perchen llid Iehofah a syrth iddo.
15Ffolineb yn rhwym ynghalon bachgen,
Gwialen cerydd a ’i pellhâ oddi wrtho.
16A orthrymmo ’r tlawd i chwannegu iddo ei hun,
Sy’n rhoi i ’r goludog,—yn unig i #22:16 dyna ddiwedd ei gybydd-dod, canys melldithia Duw ei olud.eisiau.
17Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau ’r doethion,
A ’th galon gosod ar fy ngwybodaeth;
18Canys peraidd (yw) cadw o honot hwynt yn ddwfn ynot,
(A)’u sefydu hwynt ar dy wefusau.
19Fel ar Iehofah y bo dy ymddiried,
Y ’th gyfarwyddais heddyw,—ïe, tydi:
20Oni ’scrifenais i ti ardderchog (bethau),
Gyda chynghorion a gwybodaeth,
21I ddysgu i ti iawnder geiriau gwirionedd,
Er mwyn dychwel (o honot) eiriau ffyddlondeb i’th #22:21 ei arglwydd, neu, hwyrach Duw.ddanfonwr?
22Nac yspeilia ’r anghenus, o herwydd mai #22:22 sef, o gymmorth i ’w amddiffyn.anghenus efe,
Ac na fathra ’r cystuddiol, yn y #22:22 eisteddle ’r barnwyr.porth;
23Canys Iehofah a ddadleu eu dadl,
Ac a anrheithia eu hanrheithwyr o fywyd.
24Nac ymgyfeillach â ’r digllon,
A chyda ’r gwr llidiog na ddos;
25Rhag dysgu o honot ei lwybrau ef,
A chael o honot fagl i ’th enaid.
26Na fydd (un) o ’r #Gwel 6:1.tarawyr dwylaw
O ’r mechnïwyr am ddyledion;
27Pan nad oes gennyt i dalu,
Pa ham y cymmerai #22:27 yr echwyn-roddwr.efe dy wely oddi tanat?
28Na symmud mo ’r terfyn gynt,
Yr hwn a osododd dy dadau.
29A dremiaist di ar wr hyfedr ar ei orchwyl?
— Ger bron brenhinoedd yr #22:29 sef, i’w wasanaethu.ymorsaif efe,
Nid ymorsaif ger bron y dienwog rai.
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.