S. Matthew 3
3
1Ac yn y dyddiau hyny dyfod y mae Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn anialwch Iwdea, 2gan ddywedyd, Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd: 3canys Hwn yw Efe y dywedwyd am dano trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
“Llef un yn llefain,
Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah;
Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.”
4A’r Ioan hwn oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5Yna yr aeth allan atto ef Ierwshalem, a holl Iwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen; 6a bedyddiwyd hwy yn yr afon Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau. 7A chan weled llawer o’r Pharisheaid a’r Tsadwceaid yn dyfod i’w fedydd, dywedodd wrthynt, O eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch; 9ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunan, Yn dad i ni y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r meini hyn i gyfodi plant i Abraham. 10Ac eisoes y fwyall a osodwyd ar wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da a dorrir ymaith ac a deflir i’r tân. 11Myfi, yn wir, wyf yn eich bedyddio â dwfr, i edifeirwch; ond yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol i, cryfach yw na myfi, yr Hwn nid wyf deilwng i ddwyn Ei esgidiau: Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: yr Hwn y mae Ei wyntyll yn Ei law; 12a llwyr-lanhâ Efe ei lawr-dyrnu, a chyd-gasgl Ei wenith i’r ysgubor, ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy.
13Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo; 14ond Ioan a warafunodd Iddo, gan ddywedyd, Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt Ti, ac a wyt Ti yn dyfod attaf fi? 15Ond gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Gâd yn awr; canys fel hyn y mae’n weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna y gadawodd efe Iddo. 16Ac wedi Ei fedyddio, yr Iesu a aeth i fynu yn uniawn o’r dwfr, ac wele, agorwyd y nefoedd Iddo, a gwelodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno Ef; 17ac wele, llais o’r nefoedd yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab Anwyl, yn yr Hwn y’m Boddlonwyd.
Currently Selected:
S. Matthew 3: CTB
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.