Skip to content

S. Matthew 13

13
1Y dydd hwnw yr Iesu, wedi myned allan o’r tŷ, a eisteddodd wrth lan y môr, 2a chasglwyd Atto dorfeydd mawrion, fel y bu Iddo fyned i gwch ac eistedd yno; a’r holl dyrfa, ar y lan y safai. 3A llefarodd lawer o bethau mewn damhegion, gan ddywedyd, Wele, aeth hauwr allan i hau: 4ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; 5a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef: ac eraill a syrthiasant ar y craig-leoedd, lle nid oedd iddynt ddaear lawer; ac yn uniawn yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear; 6a’r haul wedi codi, poethasant, a chan nad oedd ganddynt wreiddyn, gwywasant. 7Ac eraill a syrthiasant ymhlith y drain, a chododd y drain ac a’u tagasant hwy. 8Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a dygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, a pheth ar ei dri-ugeinfed, a pheth ar ei ddegfed ar hugain. 9Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
10Ac wedi dyfod Atto, y disgyblion a ddywedasant Wrtho, Paham mai mewn damhegion y llefari wrthynt? 11Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeledigaethau teyrnas nefoedd, ond iddynt hwy ni roddwyd; 12canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo, a gorlawnder fydd iddo: ond pwy bynnag nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a ddygir oddi arno. 13O herwydd hyn mewn damhegion yr wyf yn llefaru wrthynt, am gan weled ni welant; a chan glywed ni chlywant ac ni ddeallant. 14A chyflawnir iddynt brophwydoliaeth Eshaiah y sydd yn dywedyd,
“A chlyw y clywch, ac ni ddeallwch ddim,
A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
15Canys brasawyd calon y bobl hyn,
Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant,
Ac eu llygaid a gauasant,
Rhag ysgatfydd iddynt weled â’u llygaid,
Ac â’u clustiau glywed,
Ac â’u calon ddeall,
A dychwelyd o honynt, ac iachau o Honof hwynt.”
16Ond eich llygaid chwi, dedwydd ynt, canys gwelant; ac eich clustiau, canys clywant; 17canys yn wir y dywedaf wrthych, Llawer prophwyd a chyfiawnion a chwennychasant weled y pethau a welwch, ac ni welsant; a chlywed y pethau a glywch, ac ni chlywsant. 18Chwychwi, gan hyny, clywch ddammeg yr hauwr. 19Pob un y sydd yn clywed gair y deyrnas, ac nad yw yn deall, dyfod y mae’r drwg, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef; hwn yw’r hyn a hauwyd ar ymyl y ffordd. 20Ac yr hwn a hauwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un sy’n clywed y Gair, ac yn uniawn gyda llawenydd yn ei dderbyn ef; 21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am amser y mae; ac wedi digwydd gorthrymder neu erlid oblegid y Gair, yn uniawn y tramgwyddir ef. 22A’r hwn a hauwyd ymhlith y drain, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair; a phryder bywyd a thwyll golud sy’n tagu’r Gair, ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned. 23Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair ac yn deall; yr hwn, yn wir, sy’n ffrwytho, ac yn dwyn, peth ei ganfed, ac arall ei dri-ugeinfed, ac arall ei ddegfed ar hugain.
24Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes; 25a thra y cysgai y dynion, daeth ei elyn ac a oruwch-hauodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26A phan dyfodd yr eginyn a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 27Ac wedi dyfod atto, gweision gŵr y tŷ a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a heuaist yn dy faes? O ba le, gan hyny, y mae ganddo efrau? 28Yntau a ddywedodd wrthynt, Gelyn o ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A ewyllysi di, gan hyny, fyned o honom a’u casglu hwynt? 29Ac efe a ddywedodd, Na; rhag ysgatfydd i chwi wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. 30Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf; ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er mwyn eu llosgi; ond y gwenith cesglwch i’m hysgubor.
31Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei faes; 32yr hwn yn wir sydd llai na’r holl hadau, ond wedi tyfu o hono, mwy yw na’r llysiau, ac yn myned yn bren fel y daw ehediaid y nef ac y llettyant yn ei gangau.
33Dammeg arall a lefarodd Efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.
34Y pethau hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn damhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarai ddim wrthynt, 35fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
“Agoraf mewn damhegion fy ngenau,
Adroddaf bethau cuddiedig er’s seiliad y byd.”
36Yna wedi gadael y torfeydd, yr aeth i’r tŷ; a daeth Ei ddisgyblion Atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau’r maes. 37Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn; 38a’r maes yw’r byd; a’r had da, y rhai hyn yw meibion y deyrnas; a’r efrau yw meibion y drwg; 39a’r gelyn a’u hauodd hwynt yw diafol; a’r cynhauaf, diwedd y byd yw; a’r medelwyr, angylion ydynt. 40Fel, gan hyny, y cesglir yr efrau, ac mewn tân y’u llosgir; 41felly y bydd yn niwedd y byd: denfyn Mab y Dyn Ei angylion, a chasglant allan o’i deyrnas Ef yr holl dramgwyddiadau a’r rhai sy’n gwneuthur anghyfraith, 42a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. 43Ac yna y cyfiawnion a lewyrchant allan fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
44Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor a guddiwyd yn y maes, yr hwn wedi ei gaffael gan ddyn, a guddiodd efe, ac o’i lawenydd myned ymaith y mae, a’r cwbl, cymmaint ag sydd ganddo, a wertha efe, a phrynu’r maes hwnw y mae.
45Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farsiandwr yn ceisio perlau teg; 46ac wedi caffael un perl tra gwerthfawr, aeth ymaith a gwerthodd bob peth, cymmaint ag oedd ganddo, a phrynodd ef.
47Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd wedi ei bwrw i’r môr, 48ac o bob rhyw y casglodd: yr hon, pan y’i llenwyd, wedi ei dwyn i fynu i’r lan, ac wedi eistedd i lawr, casglasant y rhai da mewn llestri, a’r rhai llwgr a fwriasant allan. 49Felly y bydd yn niwedd y byd; allan yr aiff yr angylion, a didolant y rhai drwg o ganol y cyfiawnion, 50a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
51A ddeallasoch chwi y pethau hyn i gyd? Dywedant Wrtho, 52Do. Ac Yntau a ddywedodd wrthynt, O achos hyn pob ysgrifenydd wedi ei wneud yn ddisgybl i deyrnas nefoedd, cyffelyb yw i berchen tŷ, yr hwn sy’n bwrw allan o’i drysor bethau newydd a hen.
53A bu pan orphenodd yr Iesu y damhegion hyn, yr ymadawodd oddi yno: 54ac, wedi dyfod i’w wlad Ei hun, dysgai hwynt yn eu sunagog fel y bu aruthredd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y mae gan hwn y doethineb hwn a’r gwyrthiau? 55Onid hwn yw mab y saer? Onid yw ei fam, wrth ei henw, Mariam; ac ei frodyr, Iacob, ac Ioseph, a Shimon ac Iwdah? 56ac ei chwiorydd ef, onid ydynt oll gyda ni? O ba le, gan hyny, y mae gan hwn y pethau hyn i gyd? 57A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd, oddieithr yn ei wlad ei hun ac yn ei dŷ ei hun. 58Ac ni wnaeth efe yno wyrthiau lawer oblegid eu hanghrediniaeth.