Skip to content

Iago 2

2
1Fy mrodyr, nid gyda derbyn gwynebau bydded genych ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant. 2Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr; 3ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw, 4neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau? 5Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef? 6Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd? 7Onid hwy sy’n cablu yr enw ardderchog a alwyd arnoch? 8Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur; 9ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr; 10canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog. 11Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost. 12Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel trwy gyfraith rhyddid i gael eich barnu; 13canys y farn sydd ddi-drugaredd i’r hwn na wnaeth drugaredd. Ymffrostio y mae trugaredd uwch ben barn.
14Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef? 15Os brawd neu chwaer fydd noeth, 16ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad? 17Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw ynddi ei hun. 18Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i. 19Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant. 20Ond a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, yn ddifudd? 21Abraham ein tad, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd Itsaac, ei fab, ar yr allor? 22Gweli yr oedd ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd, a thrwy’r gweithredoedd ffydd a berffeithiwyd; 23a chyflawnwyd yr Ysgrythyr y sy’n dywedyd, “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.” 24Gwelwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid trwy ffydd ar ei phen ei hun. 25Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26Canys fel y mae’r corph, yn wahan oddiwrth yr yspryd, yn farw; felly hefyd ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, marw yw.