Eshaiah 66
66
LXVI.
1Fel hyn y dywed Iehofah,
Y nefoedd (yw) Fy ngorseddfaingc,
A’r ddaear lleithig Fy nhraed.
Pa le (y mae) ’r 2tŷ 1hwn a adeiledwch i Mi?
A pha le y 2fan 1hon fy ngorphwysfa?
2Canys yr holl (bethau) hyn, Fy llaw a’u gwnaeth,
Ac (i Mi) y perthyn yr holl rai hyn, medd Iehofah,
Ond ar hwn yr edrychaf (sef) ar yr addfwyn,
A’r drylliedig o yspryd, a’r hwn sydd yn ofni fy ngair.
3 # 66:3 ffug sancteiddrwydd yr Iwddewon. Lladdwr yr ŷch (sy) ’n darawydd dyn,
Aberthwr yr oen yn dorfynyglwr ci,
Offrymmwr offrwm (yn fwyttâwr) gwaed môch,
Moliannydd â thus yn fendigwr eulun:
Ië, hwy eu hunain a ddewisasant eu ffyrdd,
Ac yn eu ffieidd-derau eu henaid a ymhyfryda.
4 2Minnau 1hefyd a ddewisaf eu poenau hwynt,
A’r hyn y maent yn ofni, Mi a’i dygaf arnynt,
O herwydd i Mi alw ac nad (oedd) a attebai,
I Mi lefaru ac na wrandawsant,
Ond gwnaethant yr hyn (oedd) ddrwg yn Fy ngolwg,
A’r hyn nid ymhyfrydais ymddo hwy a ddewisasant.
5Gwrandêwch air Iehofah, y rhai sy’n ofni Ei air Ef,
Dywedwch wrth eich brodyr ag sy’n eich casâu
Ac yn eich bwrw allan er mwyn Fy enw,
“Gogonneddir Iehofah a gwelir Ef.”
I’ch llawenydd chwi (y bydd hyn), ond hwynt hwy a gywilyddir.
6 # 66:6 Cynnydd yr Eglwys. Llef terfysg o’r ddinas! Llef o’r deml!
Llef Iehofah yn attalu i’w elynion!
7Cyn iddi glafychu yr esgorodd hi,
Cyn dyfod gwewyr arni hi a ollyngodd allan wrryw.
8Pwy a glybu ’r fath â hyn?
A phwy a welodd y fath â’r rhai hyn?
A esgorir ar wlad mewn 2un 1dydd?
A enir cenedl ar unwaith?
Canys clafychodd ac esgorodd Tsïon ar ei meibion.
9Ai Myfi a ddygaf i’r enedigaeth ac ni pharaf esgor, medd Iehofah?
Ai Myfi gan beri esgor a luddiaf, medd dy Dduw?
10Llawenhêwch gydag Ierwshalem, a gorfoleddwch o’i hachos hi, y rhai sy’n ei charu,
Llonwch gyda hi â lloniant, y rhai sy’n galaru o’i phlegid hi;
11Fel y sugnoch ac y’ch diwaller o fronnau ei chysuron hi,
Fel y godroch ac yr ymhyfrydoch gan ddisglaerdeb ei gogoniant hi.
12Canys fel hyn y dywed Iehofah,
# 66:12 yr Euphrates. Wele Fi yn estyn arni hi heddwch fel yr afon,
# 66:12 y Nilws. A fel y ffrwd llifeiriol ogoniant y cenhedloedd;
A chwi a sugnwch,
# 66:12 fel plant gan eu mammau. Ar yr ystlys y’ch dygir chwi,
Ac ar y gliniau y’ch maldodir chwi.
13Fel un yr hwn y diddana ei fam ef,
Felly Myfi a’ch diddanaf chwi,
Ac yn Ierwshalem y’ch diddenir.
14A chewch weled, a llawenycha eich calon,
A’ch esgyrn, fel llysieuyn, a flodeuant,
Ac fe adweinir llaw Iehofah tuag at Ei weision,
Ac Efe a lidia wrth Ei elynion.
15Canys wele Iehofah, fel tân, sy’n dyfod,
Ac fel trowỳnt (y mae) Ei gerbyd,
I dalu 『2Ei ddigter』 『1mewn angerdd llid,』
A’i gerydd mewn fflammau tân.
16Canys â thân y gwna Iehofah farn,
Ac â’i gleddyf, yn erbyn pob cnawd;
Ac aml fydd lladdedigion Iehofah.
17Y rhai a ymsancteiddiant ac a ymlanhânt
# 66:17 Duw y Syriaid. Yn y gerddi yn ol (defodau) Achad
Ym mysg y rhai sy’n bwytta cig môch,
A’r peth ffiaidd, a’r llygoden,
Ynghŷd yr ysgubir hwynt ymaith, medd Iehofah.
18Canys Myfi a adwaen eu gweithredoedd hwynt, a’u meddyliau,
Ac yr wyf yn dyfod i gasglu’r holl genhedloedd a’r ieithoedd,
A hwy a ddeuant ac a welant Fy ngogoniant.
19A gosodaf yn eu mysg arwydd,
Ac anfonaf o honynt ddiangcedigion at y cenhedloedd,
I Tarshish, Pwl, a Lwd, y rhai sy’n tynnu mewn bwa,
I Twbal ac Iafan, y gwledydd tramor pell,
Y rhai ni chlywsant Fy enw,
Ac ni welsant Fy ngogoniant,
A hwy a fynegant Fy ngogoniant ym mysg y cenhedloedd.
20A hwy a ddygant eich holl frodyr,
O blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i Iehofah,
Ar feirch, ac mewn cerbyd a march-gewyll diddos,
Ac ar fulod ac ar ddromedariaid,
I fynydd Fy sancteiddrwydd, Ierwshalem, medd Iehofah,
Megis y dug meibion Israel yr offrwm
Mewn llestri glân (i) dŷ Iehofah.
21Ac hefyd o honynt hwy y cymmeraf
Yn offeiriaid ac yn Lefiaid, medd Iehofah.
22Canys megis y nefoedd newydd
A’r ddaear newydd, y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur,
(Fyddant) yn sefyll ger Fy mron,
Felly y saif eich hâd chwi, a’ch enw chwi.
23A bydd, o newydd-loer i newydd-loer,
Ac o Sabboth i Sabboth
Y daw pob cnawd i addoli ger Fy mron, medd Iehofah.
24A hwy a ânt allan ac a welant
Gelanedd y dynion a wrthryfelasant i ’m herbyn,
Canys eu pryf ni bydd marw,
A’u tân ni ddiffydd,
A byddant yn ffieidd-dra gan bob cnawd.
Currently Selected:
Eshaiah 66: CTB
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.