Eshaiah 24
24
XXIV.
1 # 24:1 Dywed rhai y cyfeirir at yr hyn a wnaethpwyd gan Salmaneser — neu, dywed eraill, gan Nebuchodonosor, — neu, dywed eraill, gan y Rhufeiniaid. Wele Iehofah yn gwaghâu ’r ddaear ac yn ei hanghyfanneddu,
Ac Efe a ddadymchwel ei gwyneb hi, ac a wasgar ei thrigolion,
2A bydd, fel (y mae) ’r bobl felly yr offeiriad,
Fel y gwas felly y meistr,
Fel y llaw-forwyn felly y feistres,
Fel y prynydd felly y gwerthydd,
Fel yr echwyn-geisiwr felly ’r echwynwr,
Fel yr ocrwr felly rhoddwr ocraeth:
3Gan waghâu y gwaghêir y ddaear, a chan yspeilio yr yspeilir,
Canys Iehofah a lefarodd y gair hwn.
4Galaru, gwywo y mae ’r ddaear,
Llesghâu, gwywo y mae ’r byd,
Llesghâu y mae uchelfa pobl y ddaear;
5A’r ddaear a halogwyd dan ei phreswylwŷr,
Canys troseddasant y gyfraith, newidiasant y ddeddf,
Diddymmasant y cyfammod tragywyddol.
6Am hynny melldith a ysodd y tir,
Ac euog yw y rhai sy’n trigo ynddo;
Am hynny distrywiwyd preswylwŷr y tir,
A gadawyd dynion ychydig.
7Galaru y mae ’r gwin newydd, llesghâu y mae ’r win-wŷdden,
Griddfanu y mae yr holl rai llawen galon.
8Darfu llawenydd tympanau,
Peidiodd trwst gorfoleddwŷr,
Darfu llawenydd y delyn.
9Gyd â chân nid yfant win,
Chwerw fydd y palm-win i’r rhai a’i hyfant.
10Drylliwyd dinas wagder,
Cauwyd pob tŷ fel na ddeler i mewn.
11(Y mae) llefain am win yn yr heolydd,
Mudodd pob hyfrydwch,
Alltudiwyd llawenydd y tir,
12Gadawyd yn y ddinas anghyfannedd-dra,
A chyda thrwst y dryllir y porth.
13Oblegid felly y bydd o fewn y tir, ynghanol y bobloedd,
Megis ysgydwad olew-wŷdden, megis grawn lloffa pan ddarffo cynhauaf y gwin.
14 # 24:14 y rhai a ddiangant tros y môr. Y rhai hyn a ddyrchafant eu llef, hwy a lawen-ganant,
Godidowgrwydd Iehofah a ddadseinia ’r dyfroedd.
15Am hynny yn yr arfordiroedd gogoneddwch Iehofah,
Yn arfordiroedd y môr enw Iehofah Duw Israel.
16O asgell y ddaear caniadau a glywsom (sef) Gogoniant i’r cyfiawn.
Ond mi a ddywedais, Culni i mi! Culni i mi!
Gwae fi! canys yr anrheithwŷr sy’n anrheithio,
Gydag anrheithiad y mae ’r anrheithwŷr yn anrheithio.
17 # 24:17 felly y byddent yn hela bwystfilod: sef yn eu dychrynu â llinynnau wedi eu gwisgo â phlu o bob lliw, ac â bloeddiadau, er mwyn iddynt ffoi a syrthio i byllau darparedig ac i faglau. Dychryn, a phwll, a magl
(Sydd) arnat ti, breswylydd y ddaear;
18A bydd, y neb a ffô rhag trwst y dychryn
A syrth i’r pwll;
A’r hwn a gyfodo o ganol y pwll
A ddèlir yn y fagl;
O herwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd,
A chrynu y mae seiliau ’r ddaear.
19Gan derfysgu ymderfysgodd y ddaear,
Gan rwygo ’r ymrwygodd y ddaear,
Gan symmud yr ymsymmudodd y ddaear.
20Gan honcian yr honcia ’r ddaear fel meddwyn,
Ac yr ymsymmud fel lletty;
A thrymhâwyd arni ei chamwedd,
A hi a syrth ac ni chwanega gyfodi.
21A bydd yn y dydd hwnnw,
Yr ymwêl Iehofah â ’r llu uchel yn yr uchelder,
Ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear,
22A chesglir hwynt â chasgliad carcharorion i’r daeardy,
A hwy a garcherir mewn carchar.
Ac ym mhen dyddiau lawer yr ymwelir â hwynt.
23Ac fe wrida ’r lloer, a chywilyddir yr huan,
Canys fe deyrnasa Iehofah y lluoedd
Ym mynydd Tsïon, ac yn Ierwshalem,
Ac o flaen Ei henuriaid Ef yn ogoneddus.
Currently Selected:
Eshaiah 24: CTB
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.