YouVersion Logo
Search Icon

Cân y Tri Llanc 1

1
Gweddi Asarias
1Rhodiodd y tri yng nghanol y fflam gan ganu mawl i Dduw a bendithio'r Arglwydd. 2Safodd Asarias, a chan agor ei enau yng nghanol y tân gweddïodd fel hyn:
3“Bendigedig a moliannus wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;
gogoneddus yw dy enw dros byth.
4Oherwydd cyfiawn wyt ym mhob peth a wnaethost i ni;
y mae dy holl weithredoedd yn gywir, a'th ffyrdd yn uniawn,
a'th holl farnau yn wir.
5Barnedigaethau gwir a wnaethost ym mhob peth a ddygaist arnom,
ac ar Jerwsalem, dinas sanctaidd ein hynafiaid,
oherwydd mewn gwirionedd a barn y dygaist hyn oll arnom ar gyfrif ein pechodau.
6Do, pechasom, a thorasom dy gyfraith trwy gefnu arnat.
7Ym mhob peth pechasom, ac ni wrandawsom ar dy orchmynion,
na'u cadw hwy, na gweithredu
fel y gorchmynnaist inni er ein lles.
8A phob peth a ddygaist arnom, a phob peth a wnaethost inni,
mewn barn gywir y gwnaethost y cwbl.
9Traddodaist ni i ddwylo gelynion digyfraith, yr atgasaf o'r di-gred,
ac i frenin anghyfiawn, y mwyaf drygionus ar wyneb yr holl ddaear.
10Ac yn awr ni allwn agor ein genau;
cywilydd a gwaradwydd a ddaeth i ran dy weision a'th addolwyr di.
11Er mwyn dy enw, paid â'n bwrw ymaith yn llwyr;
paid â diddymu dy gyfamod,
12na throi ymaith dy drugaredd oddi wrthym,
er mwyn Abraham dy anwylyd,
ac er mwyn Isaac dy was,
ac er mwyn Israel dy sanct.
13Lleferaist wrthynt gan addo iddynt
y byddit yn amlhau eu had fel sêr y nef
ac fel y tywod ar lan y môr.
14Ond yn awr, Arglwydd, fe'n gwnaed ni'n lleiaf o'r holl genhedloedd;
nyni heddiw yw'r rhai distadlaf ar yr holl ddaear, ar gyfrif ein pechodau.
15Nid oes yn y cyfwng hwn na phennaeth na phroffwyd nac arweinydd,
na phoethoffrwm nac aberth nac offrwm nac arogldarth,
na man i aberthu ger dy fron di, a chael trugaredd.
16Eto, wrth inni ddod â'n henaid drylliedig a'n hysbryd gostyngedig, derbynier ni
17fel pe baem yn dod â phoethoffrymau o hyrddod a theirw,
ac â miloedd ar filoedd o ŵyn breision.
Ie, bydded ein haberth ger dy fron di heddiw,
a chaniatâ inni ganlyn ar dy ôl,
oherwydd ni bydd gwaradwydd i'r rhai sy'n ymddiried ynot ti.
18Bellach yr ydym yn dy ganlyn â'n holl galon, ac yn dy ofni,
19ac yn ceisio dy ffafr. Paid â'n gwaradwyddo;
ond ymwna â ni yn ôl dy addfwynder,
ac yn ôl amlder dy drugaredd.
20Gwared ni yn ôl dy ryfeddodau,
a dyro ogoniant i'th enw, O Arglwydd.
21Cywilyddier pawb sy'n peri niwed i'th weision;
gwaradwydder hwy nes iddynt golli pob gallu ac arglwyddiaeth,
a dryllier eu nerth hwy.
22Gad iddynt wybod mai tydi yw'r Arglwydd, yr unig Dduw,
a'th ogoniant yn ymledu dros yr holl fyd.”
Cân y Tri Llanc
23Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân, 24nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais. 25A lledaenodd y fflam, a llosgi'r Caldeaid a ddaliwyd yn sefyll o gwmpas y ffwrnais. 26Ond daeth angel yr Arglwydd i lawr i'r ffwrnais i fod gydag Asarias a'i gyfeillion, a gyrrodd fflam y tân allan o'r ffwrnais, 27a gwnaeth i ganol y ffwrnais fod fel petai cawod o leithder yn chwyrlïo trwyddo, ac ni chyffyrddodd y tân â hwy o gwbl, na pheri iddynt unrhyw boen na gofid.
28Yna, ag un llais, dechreuodd y tri yn y ffwrnais ganu mawl, a gogoneddu a bendithio Duw fel hyn:
29“Bendigedig wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;
moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.
30Bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd;
tra moliannus a thra dyrchafedig yw dros byth.
31Bendigedig wyt ti yn dy deml sanctaidd a gogoneddus;
tra theilwng wyt i'th foliannu a'th glodfori dros byth.
32Bendigedig wyt ti, sy'n gwylio'r dyfnderoedd o'th eisteddle uwchben y cerwbiaid;
moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.
33Bendigedig wyt ti ar orsedd dy frenhiniaeth;
tra theilwng wyt i'th foliannu a'th ddyrchafu dros byth.
34Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nef;
teilwng wyt i'th foliannu a'th ogoneddu dros byth.
35“Bendithiwch yr Arglwydd, holl weithredoedd yr Arglwydd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
36Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r nefoedd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
37Bendithiwch yr Arglwydd, chwi angylion yr Arglwydd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
38Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r dyfroedd oll sydd uwchben y ffurfafen;
molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.
39Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd;
molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.
40Bendithiwch yr Arglwydd, chwi haul a lleuad;
molwch ef a'i dra-dyrchafu dros byth.
41Bendithiwch yr Arglwydd, chwi sêr y nefoedd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
42Bendithiwch yr Arglwydd, bob cawod a gwlith;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
43Bendithiwch yr Arglwydd, yr holl wyntoedd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
44Bendithiwch yr Arglwydd, chwi dân a gwres;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
45Bendithiwch yr Arglwydd, chwi aeaf a haf;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
46Bendithiwch yr Arglwydd, chwi wlithoedd a chawodydd eira;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
47Bendithiwch yr Arglwydd, chwi nosau a dyddiau;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
48Bendithiwch yr Arglwydd, chwi oleuni a thywyllwch;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
49Bendithiwch yr Arglwydd, chwi rew ac oerfel;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
50Bendithiwch yr Arglwydd, chwi lwydrew ac eira;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
51Bendithiwch yr Arglwydd, chwi fellt a chymylau;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
52Bendithied y ddaear yr Arglwydd;
moled ef a'i dra-dyrchafu dros byth.
53Bendithiwch yr Arglwydd, chwi fynyddoedd a bryniau;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
54Bendithiwch yr Arglwydd, bopeth sy'n tyfu ar y ddaear;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
55Bendithiwch yr Arglwydd, chwi foroedd ac afonydd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
56Bendithiwch yr Arglwydd, chwi ffynhonnau;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
57Bendithiwch yr Arglwydd, chwi forfilod, a phob creadur sy'n symud yn y dyfroedd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
58Bendithiwch yr Arglwydd, holl adar yr awyr;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
59Bendithiwch yr Arglwydd, yr holl fwystfilod ac anifeiliaid;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
60Bendithiwch yr Arglwydd, chwi blant dynion;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
61Bendithiwch yr Arglwydd, O Israel;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
62Bendithiwch yr Arglwydd, chwi offeiriaid yr Arglwydd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
63Bendithiwch yr Arglwydd, chwi weision yr Arglwydd;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
64Bendithiwch yr Arglwydd, chwi ysbrydoedd ac eneidiau'r cyfiawn;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
65Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r rhai sanctaidd a gostyngedig eu calon;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
66Bendithiwch yr Arglwydd, Ananias, Asarias, a Misael;
molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.
Oherwydd gwaredodd ni o Drigfan y Meirw a'n hachub o afael marwolaeth;
gollyngodd ni'n rhydd o ganol y ffwrnais a'i gwenfflam,
a'n gwaredu o ganol y tân.
67Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd da yw;
oherwydd y mae ei drugaredd ef dros byth.
68Chwi oll sydd yn addoli'r Arglwydd, bendithiwch Dduw y duwiau;
molwch a chlodforwch ef, oherwydd y mae ei drugaredd ef dros byth.”

Currently Selected:

Cân y Tri Llanc 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy