YouVersion Logo
Search Icon

Llythyr Jeremeia 1

1
Cyflwyniad
1Dyma gopi o lythyr a anfonodd Jeremeia at y carcharorion oedd i gael eu dwyn i Fabilon gan frenin y Babiloniaid, i fynegi iddynt neges a roddwyd iddo gan Dduw.
Wynebu ar Gyfnod Maith o Gaethiwed
2Oherwydd y pechodau a wnaethoch ger bron Duw, y mae Nebuchadnesar brenin y Babiloniaid yn eich dwyn yn garcharorion i Fabilon. 3Pan ddewch i Fabilon fe fyddwch yno am lawer o flynyddoedd, am amser maith, hyd at saith cenhedlaeth. Ar ôl hynny, fe'ch dygaf chwi allan oddi yno mewn heddwch. 4Yn awr fe welwch ym Mabilon dduwiau arian ac aur a phren, yn cael eu cludo ar ysgwyddau dynion ac yn codi arswyd ar y cenhedloedd. 5Byddwch yn ofalus felly rhag i chwithau efelychu'r cenhedloedd dieithr. Peidiwch â gadael i arswyd rhag eu duwiau afael ynoch chwi pan welwch, o'u blaen ac o'u hôl, dyrfa yn eu haddoli. 6Ond dywedwch yn eich calon: “Ti, Arglwydd, sydd i'w addoli.” 7Oherwydd y mae fy angel gyda chwi, a'i ofal ef am eich bywydau.
Diymadferthedd Delwau
8Tafod wedi ei naddu gan saer sydd gan y duwiau hyn, ac er eu gorchuddio ag aur ac arian, pethau gau ydynt, heb allu i siarad. 9Y mae'r bobl yn cymryd aur a gwneud coronau i osod ar bennau eu duwiau, fel y gwneir i ferch sy'n hoff o dlysau. 10Ac weithiau y mae'r offeiriaid yn dwyn aur ac arian oddi ar eu duwiau ac yn eu treulio i'w dibenion eu hunain, 11gan roi ohonynt hyd yn oed i'r puteiniaid yn yr ystafell fewnol. Gwisgant â dillad pobl y duwiau hyn o arian ac aur a phren; 12ond ni all y rheini eu hachub eu hunain rhag y rhwd a'r pryfed. Er eu gwisgo mewn porffor, 13rhaid sychu eu hwynebau'n lân o achos llwch y tŷ, sy'n drwch drostynt. 14Fel un yn barnu gwlad, y mae gan y duw deyrnwialen yn ei law, ond ni all ladd neb sy'n pechu yn ei erbyn. 15Yn ei law dde y mae ganddo ddagr a bwyell, ond ni all ei waredu ei hun rhag rhyfel na lladron. 16Y mae'n amlwg wrth hyn nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
17Fel y mae llestr wedi ei dorri yn ddiwerth i neb, felly y mae eu duwiau hwy, wedi iddynt gael eu gosod yn eu temlau. Llenwir eu llygaid â llwch o draed y rhai a ddaw i mewn. 18Fel y caeir pyrth yn wyneb dyn sy'n euog o deyrnfradwriaeth, fel dyn dan ddedfryd marwolaeth, felly y mae'r offeiriaid yn diogelu temlau'r duwiau â drysau a bolltau a chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio. 19Y maent yn cynnau lampau o'u blaen, mwy hyd yn oed nag o'u blaen eu hunain, er na all y duwiau weld yr un ohonynt. 20Y maent fel un o drawstiau'r deml, ac eto y maent yn cael eu llyfu, megis, o'r tu mewn, wrth i greaduriaid o'r ddaear eu difa hwy a'u gwisgoedd heb yn wybod iddynt. 21Y mae mwg o'r deml wedi duo eu hwynebau. 22Bydd ystlumod a gwenoliaid ac adar o bob math yn clwydo ar eu cyrff a'u pennau, a chathod hefyd yn dringo arnynt. 23Wrth hyn bydd yn amlwg i chwi nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
24Er bod aur yn addurn amdanynt, ni ddisgleiriant byth heb i rywun eu sychu'n lân. Ni theimlasant ddim wrth gael eu toddi i'w llunio. 25Er nad oes ynddynt anadl, fe'u prynwyd am bris mawr. 26A hwythau heb draed, rhaid wrth ysgwyddau i'w cludo, a dengys hynny i bobl bethau mor wael ydynt. 27Y mae cywilydd hyd yn oed ar y rhai sy'n eu gwasanaethu, oherwydd os digwydd i un o'u duwiau syrthio i'r llawr, ni all godi ohono'i hun. Ac o'i osod i sefyll yn syth, ni all symud ohono'i hun; neu o'i osod ar ogwydd, ni all ei unioni ei hun. Y mae offrymu iddynt fel offrymu i gyrff meirw. 28Y mae'r offeiriaid yn gwerthu aberthau'r duwiau, ac yn defnyddio'r elw i'w dibenion eu hunain, a'u gwragedd yr un modd yn cymryd rhannau o'r aberthau ac yn eu halltu, heb roi dim i'r tlawd a'r methedig. 29Cyffyrddir â'u haberthau gan wragedd misglwyfus a chan rai sydd newydd esgor. Gwybyddwch wrth hyn nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.
30Pa fodd y gellir eu galw'n dduwiau? Oherwydd gwragedd sy'n offrymu i'r duwiau hyn o arian ac aur a phren. 31Y mae'r offeiriaid yn eistedd yn eu temlau â'u gwisgoedd wedi eu rhwygo, a'u pennau a'u barfau wedi eu heillio, a heb benwisg, 32gan weiddi a bloeddio gerbron eu duwiau, fel rhai mewn gwledd angladd. 33Y mae'r offeiriaid yn dwyn oddi ar y duwiau eu dillad, i wisgo eu gwragedd a'u plant eu hunain. 34Os gwneir drwg neu dda i'r duwiau hyn, ni allant dalu'r pwyth. Ni allant osod brenin ar ei orsedd, na'i ddiorseddu chwaith. Yn yr un modd, ni allant roi cyfoeth nac arian. 35Os adduneda rhywun iddynt a methu talu, ni hawliant dâl byth. 36Ni allant waredu neb oddi wrth angau, na rhyddhau'r gwan o law'r cadarn. 37Ni allant roi ei olwg i'r dall, na chymorth i'r anghenus. 38Ni ddangosant drugaredd i'r weddw na gwneud daioni i'r amddifad. 39Tebyg i gerrig o'r mynydd yw'r pethau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur ac arian; a'u gwaradwyddo a gaiff y rhai sy'n eu gwasanaethu. 40Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?
Ffolineb Addoli Delwau
Yn wir, y mae'r Caldeaid eu hunain yn dibrisio'r pethau hyn. 41Oherwydd, pan welant fudan na all siarad, dônt ag ef at Bel a gwneud iddo alw arno, fel petai hwnnw'n meddu ar synhwyrau. Ac nid oes ganddynt hwythau ddigon o grebwyll i gefnu'n llwyr arnynt, gan mor ddisynnwyr ydynt. 42Y mae'r gwragedd hefyd yn eistedd yn y strydoedd â rheffynnau amdanynt, yn llosgi eisin. 43Ac os tynnir un ohonynt allan gan rywun sy'n mynd heibio, a hithau'n gorwedd gydag ef, y mae hi'n edliw i'w chymdoges na chafodd honno ei chyfrif mor ddeniadol â hi ei hunan, ac na thorrwyd ei rheffynnau hithau. 44Y mae popeth sy'n ymwneud â'r delwau hyn yn gelwydd. Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?
45Gwaith seiri a gofaint aur ydynt. Ni allant fod yn ddim amgen nag y dymuna'r crefftwyr iddynt fod. 46Ni chaiff y rheini a'u lluniodd fyth fyw yn hir iawn. 47Pa fodd, felly, y gellir disgwyl i'r pethau a luniwyd ganddynt fod yn dduwiau? Gadawsant i'w disgynyddion gelwydd a gwaradwydd. 48Pan ddaw rhyfel a drygau ar eu gwarthaf, y mae'r offeiriaid yn ymgynghori am le i ymguddio gyda'u duwiau. 49Pa fodd nad oes ganddynt synnwyr i weld nad duwiau yw'r rhai sydd heb allu i'w hachub eu hunain rhag rhyfel a drygau? 50Gan mai pethau pren ydynt, wedi eu gorchuddio ag aur ac arian, gwybyddir wedi hynny mai ffug ydynt. 51A bydd yn amlwg i'r holl genhedloedd a'r brenhinoedd nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, heb ddim o waith Duw ynddynt o gwbl. 52Pwy, felly, sydd heb wybod nad duwiau mohonynt?
53Ni allant fyth osod brenin ar wlad, na rhoi glaw i bobl. 54Ni allant fyth ddyfarnu mewn llys, nac achub neb dan gam. Y maent mor ddiymadferth â brain i fyny yn yr awyr. 55Pan syrth tân ar deml y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur neu arian, bydd eu hoffeiriaid yn ffoi i ddiogelwch, ond llosgir y duwiau eu hunain fel trawstiau yng nghanol y tân. 56Ni allant fyth wrthsefyll na brenin na gelynion. Pa fodd y gellir derbyn neu gyfrif eu bod yn dduwiau?
57Ni all y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o arian ac aur, fyth eu diogelu eu hunain rhag lladron ac ysbeilwyr. 58Bydd y cryfion yn dwyn oddi arnynt yr aur a'r arian a'r dillad sydd amdanynt, ac yn mynd â'r cwbl ymaith gyda hwy, heb iddynt fedru gwneud dim i'w diogelu eu hunain. 59Gwell brenin yn dangos ei wrhydri, neu lestr mewn tŷ, y gall ei berchennog ei ddefnyddio fel y myn, na'r duwiau gau hyn. Gwell drws ar dŷ, sy'n cadw'n ddiogel y pethau o'i fewn, na'r duwiau gau hyn. Gwell colofn bren yn nhŷ'r brenin na'r duwiau gau hyn. 60Y mae'r haul a'r lloer a'r sêr disglair wedi eu hanfon i bwrpas, ac y maent yn ufudd. 61Felly hefyd y mae'r fellten, pan oleua, yn hawdd ei gweld. 62A'r un modd y mae'r gwynt yn chwythu ym mhob gwlad. A phan fydd Duw yn gorchymyn i'r cymylau dramwyo dros yr holl fyd, byddant yn cyflawni'r hyn a orchmynnwyd iddynt. 63Felly hefyd y tân, pan fydd Duw'n ei anfon i ddifa mynyddoedd a choed, bydd yntau'n gwneud yr hyn a orchmynnwyd. Ond nid yw'r delwau i'w cymharu â'r rhain o ran eu gwedd na'u grym. 64Ni ellir felly eu cyfrif na'u galw yn dduwiau, gan na allant roi barn mewn llys na gwneud lles i neb. 65Gwybyddwch, felly, nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.
66Ni allant fyth felltithio na bendithio brenhinoedd. 67Ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd i'r cenhedloedd, gan nad ydynt yn goleuo fel yr haul nac yn llewyrchu fel y lloer. 68Y mae'r anifeiliaid gwyllt yn rhagori arnynt, gan eu bod yn medru ffoi a'u diogelu eu hunain mewn lloches. 69Gan hynny, nid oes gennym unrhyw fath o dystiolaeth eu bod yn dduwiau. Felly peidiwch â'u hofni. 70Fel bwgan brain nad yw'n amddiffyn dim mewn gardd lysiau, felly y mae'r duwiau pren hyn o'r eiddynt, gyda'u gorchudd o aur ac arian. 71Tebyg i lwyn drain mewn gardd, a phob aderyn yn disgyn arno, a thebyg i gorff wedi ei daflu allan yn y tywyllwch, yw eu duwiau pren gyda'u gorchudd o aur ac arian. 72Wrth y porffor a'r lliain main#1:72 Groeg, a'r marmor. sy'n pydru arnynt gwybyddwch nad duwiau mohonynt. Fe'u hysir hwy eu hunain yn y diwedd, a byddant yn waradwydd yn y wlad. 73Felly gwell yw'r cyfiawn nad oes ganddo ddelwau; pell fydd un felly oddi wrth waradwydd.

Currently Selected:

Llythyr Jeremeia 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy